Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 12 Ionawr 2022.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i arwain drwy esiampl fel cyflogwr cyflog byw go iawn a gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i gynyddu'r nifer sy'n mabwysiadu cyflogau byw go iawn. Rydym wedi cyhoeddi ein hymrwymiad ariannu i'r cyflog byw go iawn mewn gofal cymdeithasol ac rydym yn gweithio'n ehangach i gymell cyflogwyr tuag at y cyflog byw go iawn.