Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 12 Ionawr 2022.
Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu ymgysylltu’n llawn â’r Llywodraethau datganoledig wrth gynnal ei hadolygiad o gyfraith yr UE a ddargedwir. Rwy'n disgwyl rhagor o wybodaeth am yr adolygiad hwnnw a sut y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ymgysylltu â Llywodraeth Cymru.