Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 12 Ionawr 2022.
Mae pawb ohonom yn y Siambr yn darllen adroddiadau a dogfennau briffio niferus am y problemau y mae angen inni fynd i'r afael â nhw, ond hoffwn nodi, fel Aelod newydd o'r Senedd, mai ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ddyled a'r pandemig oedd fy ymchwiliad pwyllgor cyntaf, a bod clywed tystiolaeth uniongyrchol am sut mae angen gwneud mwy i gynorthwyo teuluoedd i gadw eu pen uwchben y dŵr wedi cael effaith ddofn arnaf. Achos, er sôn mae'r adroddiad am effaith y pandemig ar ddyled, roedd yn eglur o'r dystiolaeth fod y dyledion hyn wedi eu dyfnhau, nid eu creu, gan y pandemig.
Mae'r adroddiad wedi canfod bod 18 y cant o oedolion yng Nghymru—cyfran uwch nag yn Lloegr neu'r Alban—wedi wynebu caledi economaidd o ganlyniad i'r pandemig. Mae'r arwyddion a sbardunodd penderfyniad y pwyllgor i ymchwilio i'r mater hwn yn y lle cyntaf wedi arwain at gyflwyno darlun clir a brawychus o argyfwng na welwyd ei debyg ers yr argyfwng ariannol dros ddegawd yn ôl. Ac mae gwaeth i ddod.
Roedd y termau a ddefnyddiwyd yn drawiadol ac yn droëdig. Rwyf wedi dyfynnu o'r adroddiad o'r blaen mewn dadleuon yn y Siambr, ond maen nhw'n werth eu hailadrodd.
'Yr hyn sy'n fy mhoeni'n fawr', meddai un tyst,
'yw cynnydd posibl o 30 y cant mewn prisiau nwy a thrydan yn 2022. Mae hynny'n mynd i wthio pobl i dlodi ar lefel oes Fictoria.'
Wel, mae 2022 yma. Roedd y rhybuddion yn gywir, os nad ychydig yn geidwadol o glywed rhybudd pennaeth Centrica heddiw am brisiau nwy, a'r pryderon a fynegwyd gan y comisiynydd pobl hŷn heddiw am effaith hyn ar bensiynwyr.
Cwestiwn canolog yr adroddiad yw pam fod cymaint o deuluoedd mewn sefyllfa mor fregus yn y lle cyntaf? Beth ellir ei wneud am hyn, a beth arall y gellir ei wneud i amddiffyn y boblogaeth mewn unrhyw argyfyngau yn y dyfodol?
Y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef dyledion problemus yw'r aelwydydd sydd eisoes yn wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, pobl fel rhentwyr, y rhai ar incwm isel neu mewn gwaith ansicr, pobl anabl, plant, rhieni unigol, pobl hŷn, rhai sy'n gadael gofal, a phobl o leiafrifoedd ethnig. Ceir enghreifftiau niferus yn yr adroddiad o sut mae dyled broblemus yn effeithio'n anghymesur ar rai grwpiau yn y gymdeithas ac yn dyfnhau'r anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol. Er enghraifft, mae pobl anabl wedi bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod ag ôl-ddyledion yn ystod y pandemig, ac mae adroddodd Sefydliad Bevan fod eu hymchwil yn dangos bod pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn fwy tebygol o fod ag ôl-ddyledion ar bob bil nag unrhyw grŵp arall. Clywon ni fod 43 y cant o oroeswyr cam-drin domestig wedi cael eu gwthio i ddyled.
Mae'n rhaid cymryd camau sylweddol ar frys i fynd i'r afael â sut mae'r broblem hon o ddyled yn effeithio ar les plant, dyfodol ein cenedl. Mae'r hyn sy'n cael ei ddadlennu am sut mae un o bob pum teulu yn gorfod torri nôl ar eitemau i blant, ac un o bob 10 teulu gyda dau o blant wedi gorfod torri nôl ar fwyd, yn anodd ei ddirnad yng Nghymru yr unfed ganrif ar hugain. Cymru, sy'n rhan o wladwriaeth sy'n un o'r cyfoethocaf yn y byd. Mae'n warthus. Mae'n anfaddeuol. Ac mae'n broblem nid yn unig am heddiw na fory ond yn un a fydd gyda ni am ddegawdau os na weithredwn ar frys. Mae byw ar aelwyd gyda phroblemau dyled, mewn straen ariannol, yn brofiad niweidiol yn ystod plentyndod, a gall effeithio'n negyddol ar iechyd a chyfleon person ifanc gydol ei oes.
Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymchwilio i ddatrysiadau o bob math, ym meysydd tai, trethiant, trafnidiaeth gyhoeddus, taliadau cefnogi fel yr EMA. Ac yn unol â galwadau adroddiad y pwyllgor, mae Plaid Cymru am weld ffocws newydd gan y Llywodraeth ar gyflymu'r gwaith i sicrhau bod pob cartref cymdeithasol yn cyrraedd safon graddfa ynni A, a sicrhau hyrwyddo a chefnogaeth well i wasanaethau cyngor ar ddyledion a ffynonellau credyd fforddiadwy, a gwneud yr hyblygrwydd dros dro yn y gronfa cymorth dewisol yn barhaol. Mae'n bryderus i weld bod y cyllid a ddyrennir i'r gronfa honno yn 2022-23 yn is nag yr oedd ar gyfer y ddwy flynedd ariannol flaenorol.
Rwy'n falch bod y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru yn cynnwys mesurau allweddol i fynd i'r afael â lleihau lefelau tlodi a'r effaith ar deuluoedd—prydau bwyd am ddim i bob plentyn cynradd, ehangu'r ddarpariaeth gofal plant am ddim i gynnwys plant dw flwydd oed, diwygio treth y cyngor a sicrhau mesurau i fynd i'r afael â'r argyfwng tai. Rydyn ni'n cefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad, sy'n galw ar y Llywodraeth i gymryd camau penodol ar frys, ac fel rwyf wedi sôn eisoes, mae Plaid Cymru yn credu bod hefyd gamau eraill sydd angen eu cymryd, sydd o fewn gallu'r Llywodraeth, a all helpu goleuo cannwyll yn y gwyll. Mae'r cytundeb cydweithio hefyd yn cynnwys ymrwymiad i ddatganoli gweinyddu lles.