Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 12 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heddiw. Ers fy mhenodi, rwyf wedi bod yn gwbl glir mai lleihau anghydraddoldebau iechyd yw un o fy mlaenoriaethau allweddol fel Gweinidog. Mae'r cysylltiadau rhwng ble rydych yn byw, eich statws economaidd-gymdeithasol, eich disgwyliad oes a faint o flynyddoedd y gallwch ddisgwyl byw'n iach yn hysbys ac wedi cael eu nodi gan nifer o Aelodau'r Senedd heddiw.
Fel y mae cynifer wedi dweud, gwyddom fod pobl yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn fwy tebygol o fyw bywydau byrrach na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, a'u bod, yn anffodus, yn byw llai o'r blynyddoedd hynny mewn iechyd da. Rwy'n siŵr y gall pob un ohonom yn y Senedd gytuno bod y ffaith bod hyn yn parhau i fod yn realiti ledled Cymru heddiw yn anghyfiawn yn gymdeithasol, ac mae'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn gwbl benderfynol o'i unioni.
Mae'n bwysig inni fod yn glir nad ydym yn dechrau'r gwaith hwn o'r dechrau. Dros flynyddoedd lawer, rydym wedi gweithio i adeiladu cyd-destun deddfwriaethol a pholisi cadarn i sicrhau bod mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn rhan annatod o'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Credaf mai un o'r enghreifftiau gorau o'r gwaith hwn yw'r modd y caiff y defnydd o asesiadau o'r effaith ar iechyd ei ymgorffori ar draws y Llywodraeth, a deddfu yn y Senedd hon i osod Cymru iachach a Chymru fwy cyfartal yn nodau statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rydym wedi bod yn falch o rannu ein dull o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy fframwaith y Ddeddf yn rhyngwladol, fel partner arweiniol y cydweithredu diweddar ar degwch iechyd yn Ewrop. Cydweithredodd 25 o wledydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Efallai y bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fod fy rhagflaenydd wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar degwch iechyd gyda rhanbarth Ewrop o Sefydliad Iechyd y Byd yn 2020. Drwy ein gwaith gyda Sefydliad Iechyd y Byd, mae Cymru wedi sefydlu menter adroddiad statws tegwch iechyd Cymru ac wedi dod yn ddylanwadwr byd-eang ac yn safle arloesi byw ar gyfer tegwch iechyd.
Nawr, yn ogystal â sefydlu'r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi cywir, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu nifer o raglenni allweddol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, megis ein rhaglen flaenllaw, Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn cyrraedd tua 36,000 o blant dan bedair oed sy'n byw yn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig ledled Cymru. Mae'n gweithio i sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac rydym i gyd yn gwybod bod hynny'n hanfodol o ran y cyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad a'r canlyniadau mwy hirdymor.
Ond er gwaethaf y camau a gymerwyd gennym, mae COVID-19 wedi dangos yn glir beth yw gwir effaith anghydraddoldebau iechyd.