Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 19 Ionawr 2022.
Nid oes amheuaeth y bydd cymhellion a datgymhellion yn chwarae rhan allweddol. Fel y mae Julie James a minnau wedi bod yn ei ddweud ers inni gael ein penodi'n Weinidogion newid hinsawdd fis Mai diwethaf, mae angen inni wneud y peth iawn i'w wneud yn beth hawsaf i'w wneud. Ond mae ein system drafnidiaeth a chynllunio wedi'i llunio mewn ffordd sy'n golygu mai neidio i mewn i'r car yw'r peth hawsaf i'w wneud, a beicio, cerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn llai hawdd, ac mae'n rhaid i hynny newid. Yn amlwg, mae gan bris rôl i'w chwarae yn y ffordd rydym yn cymell y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Yn sicr, nid dyma'r unig ffactor, serch hynny. Mae gweithredwyr bysiau wedi bod yn dweud wrth bwyllgorau'r Senedd ers blynyddoedd mai'r rhwystr mwyaf i ddenu mwy o deithwyr yw'r effaith y mae tagfeydd yn ei chael ar amseroedd teithio a dibynadwyedd. Mae diffyg integreiddio rhwng bysiau a threnau yn rhwystr arall, yn ogystal â newid arferion. Nid yw 50 y cant o bobl byth yn mynd ar y bws. O ganlyniad, mae gan lawer ohonom farn wyrgam o realiti teithio ar fysiau, pa mor hawdd a chyfleus yw gwneud hynny. Felly, mae llawer y mae angen inni ei newid, ond ble mae dechrau a sut y talwn amdano? Dyna'r cwestiynau sy'n ein hwynebu.
Yn ninas Dunkirk yn Ffrainc, maent yn sicr wedi gweld bod defnydd am ddim o fysiau wedi bod yn llwyddiant. Ym mis Medi 2018, cynyddwyd y dreth fusnes leol i ariannu defnydd am ddim o fysiau ac maent wedi gweld nifer y teithwyr yn cynyddu 60 y cant yn ystod yr wythnos a dwbwl ar benwythnosau. Rydym eisoes wedi'i dreialu ein hunain gyda theithio am ddim ar benwythnosau ar ein rhwydwaith bysiau strategol TrawsCymru rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Mawrth 2020, ac roedd yn llwyddiannus o ran cynyddu defnydd hefyd. Roedd tua chwarter y teithwyr bws yn bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, a phan gawsant eu holi, dywedodd 73 y cant o bobl ifanc wrthym y byddai teithio am ddim yn eu hannog i wneud mwy o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus a newid o ddefnyddio'r car.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganmol cynghorau Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd—cynghorau Llafur—sydd wedi cynnig mentrau tocynnau bws am ddim a thocynnau bws rhatach dros y flwyddyn ddiwethaf. O ganlyniad i hynny, gwelodd pob un ohonynt fwy o bobl yn defnyddio bysiau, ac rydym yn edrych yn ofalus gyda hwy ar yr adroddiadau gwerthuso. Felly, unwaith eto, nid oes amheuaeth nad yw defnydd am ddim o fysiau yn opsiwn deniadol. Ond wrth gwrs, mae cost ynghlwm wrtho a rhaid i bob Llywodraeth flaenoriaethu. Gwn nad yw Jane Dodds yn dadlau dros ddefnydd am ddim o fysiau i bawb, ond ei dargedu yn hytrach at bobl ifanc. Ac mae cynsail i hyn: rydym yn darparu teithio am ddim ar fysiau i bobl hŷn, ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr. Rydym i gyd yn cydnabod bod pobl ifanc yn arbennig wedi cael amser caled yn ystod y pandemig, a bod llawer o wahanol garfannau heb fod yn cael yr un cyfleoedd ag y cafodd fy nghenhedlaeth i neu fy rhieni.
Rydym yn cynnig rhywfaint o help yn barod. Gan ddechrau gyda'r ieuengaf, mae pob plentyn o dan 6 oed yng Nghymru yn cael teithio am ddim, mae pobl ifanc 16 i 21 oed yn cael gostyngiad o draean ar docynnau bws gyda chymorth cynllun Fy Ngherdyn Teithio Llywodraeth Cymru, fel y nododd Jane Dodds, ac mae rhai pobl ifanc yn gymwys i deithio am ddim gyda chymorth ein cynllun teithio consesiynol gorfodol. Ar y trên, gall plant dan 11 oed deithio am ddim pan fyddant gydag oedolyn, a gall rhai dan 16 oed elwa o deithio am ddim ar adegau tawel gyda Trafnidiaeth Cymru. I rai rhwng 16 a 17 oed, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cerdyn rheilffordd sy'n cynnig gostyngiad o 50 y cant ar lawer o docynnau. Ac wrth gwrs, yng Nghymru, rydym wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, sy'n rhoi cymorth ariannol gwerthfawr i fyfyrwyr tuag at gostau byw, gan gynnwys tocynnau trafnidiaeth gyhoeddus.
I fod yn glir, rydym eisiau gwneud mwy, ond mae hefyd yn deg nodi ein bod wedi ein cyfyngu. Bydd ein cyllideb ar ddiwedd tymor y Senedd hon bron i £3 biliwn yn llai na phe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi dros dymor Llywodraeth y DU ers 2010. Ac nid ydym yn cael ein cyfran deg o adnoddau trafnidiaeth y DU. Dylem i gyd uno ar hyn; nid oes angen i hwn fod yn fater pleidiol. Pe bai gennym gyfran o'r gwariant ar raglen HS2, byddem yn cael £5 biliwn ychwanegol y gallem ei ddefnyddio i wella trafnidiaeth yng Nghymru yn sylweddol. Rwy'n gobeithio, unwaith eto, y gallwn ddod at ein gilydd ar draws y pleidiau i alw ar Lywodraeth y DU i edrych eto ar hyn.
O ganlyniad i hynny, ni allwn wneud popeth yr hoffem ei wneud, ond rydym yn benderfynol o wneud mwy. Yn wir, mae ein hymrwymiadau hinsawdd yn mynnu ein bod yn gwneud mwy. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys addewidion i adeiladu ar lwyddiant ein cynllun teithio consesiynol i bobl hŷn ac i edrych ar sut y gall prisiau teg annog defnydd o drafnidiaeth integredig. Yn ail, rydym wedi ymrwymo i archwilio estyniadau i gynllun Fy Ngherdyn Teithio ar gyfer teithio rhatach i bobl ifanc. Rwy'n ymwybodol fod dros 100 o drefi a dinasoedd ledled y byd wedi cyflwyno cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob dinesydd, ac rydym yn edrych ar y rhain i weld beth fydd yn gweithio orau yng Nghymru. Rydym hefyd yn edrych yn fanwl ar y gwaith yn yr Alban, a gafodd sylw yn y ddadl, ar gyflwyno teithio am ddim ar fysiau i rai dan 22 oed.
Er bod prisiau tocynnau'n ffactor pwysig, soniais fod y diwydiant bysiau yn rhoi mwy o bwyslais ar brydlondeb a dibynadwyedd. Yn ddiddorol, dangosodd ymchwil y llynedd gan Passenger Focus fod hon yn farn a rennir gan bobl ifanc yn enwedig; maent yn rhoi mwy o bwys na grwpiau oed eraill ar brydlondeb a dibynadwyedd, darpariaeth Wi-Fi am ddim mewn safleoedd bysiau, ynghyd â phrisiau sy'n cynnig gwerth am arian a'r gallu i gael sedd. Felly, Ddirprwy Lywydd, nid yw'r rhain yn ystyriaethau syml; nid oes amheuaeth nad yw pris yn ffactor pwysig wrth geisio cael mwy o bobl ar fysiau, ond nid yw ond yn un o amrywiaeth o gymhellion ac mae'n rhaid inni ystyried yn ofalus sut y defnyddiwn ein hadnoddau cyfyngedig i sicrhau'r newid dulliau teithio rydym i gyd wedi ymrwymo iddo.
Nid wyf mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiadau i'r Senedd heno, ond gallaf sicrhau'r Aelodau fod Julie James a minnau'n gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn gweithredu strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru a lansiwyd gennym y llynedd, er mwyn rhoi Cymru ar lwybr newydd. Diolch.