Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch i Jane am ddod â’r ddadl yma ger ein bron ni heddiw. Mae’n ddadl andros o bwysig i bob rhan o Gymru, mewn gwirionedd, ond dwi eisiau canolbwyntio yn y munud sydd gen i ar Gymru wledig ac edrych yn benodol ar Ddwyfor Meirionnydd. Dwi'n cydnabod ac yn diolch i Jane am gyfeirio at Gymru wledig yn ei chyfraniad. Wrth gwrs, yr hyn rydyn ni wedi’i weld dros y degawdau diwethaf ydy canoli gwasanaethau i ffwrdd o’n cymunedau ni, gwasanaethau yn mynd i'r dinasoedd a'r trefi—yn achos gogledd Cymru, yn mynd ymhellach i'r arfordir, oddi wrth ein pentrefi bach gwledig ni. Felly, mae pobl yn methu â chael mynediad i'r gwasanaethau hynny. Meddyliwch os ydych chi'n berson ifanc yn byw yn rhywle fel Trawsfynydd ac eisiau mynd i chwarae pêl-droed a does dim pitsh 3G yn gyfagos; os ydych chi eisiau cael triniaeth, a ddim eisiau i bobl wybod am hynny, ond mi ydych chi'n ddibynnol ar drafnidiaeth breifat, yn ddibynnol ar gyfaill neu deulu i fynd â chi i'r ysbyty neu'r clinig.
Dwi eisiau cyfeirio'n benodol at un enghraifft er mwyn dangos pwysigrwydd hyn. Dwi wedi bod yn siarad efo'r elusen GISDA; dwi wedi cyfeirio at hyn o'r blaen. Mae GISDA yn elusen rhagorol yn y gogledd-orllewin yn helpu pobl ifanc ddifreintiedig. Fe ddaru nhw wneud ymgynghoriad efo defnyddwyr yr elusen, a’r brif her oedd yn wynebu’r bobl ifanc hynny oedd iechyd meddwl, a’r diffyg cyfleusterau a gwasanaethau iechyd meddwl, a'r her o ran y gwasanaethau hynny oedd diffyg gallu i gyrraedd y gwasanaethau. Felly eto, os ydych yn byw yn rhywle fel Harlech neu Meirionnydd neu ym mhen draw Llŷn, rydych chi'n gorfod teithio oriau er mwyn mynd i Fangor neu Fae Colwyn neu ymhellach, hyd yn oed. Felly mae hyn yn dangos pwysigrwydd trafnidiaeth, yn enwedig i'r bobl ifanc yn ein cymunedau ni. Mae angen rhoi’r pwys mwyaf arno fe a rhoi'r buddsoddiad yn ein trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau bod y bobl yma'n derbyn y gwasanaethau angenrheidiol. Felly, diolch yn fawr iawn, Jane, a gobeithio y byddwn ni'n cael ymateb cadarnhaol gan y Dirprwy Weinidog.