9. Dadl Fer: Teithio o gwmpas: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 6:08, 19 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Dyna pam y mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnig ein bod yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus—teithio ar fysiau a threnau—yn rhad ac am ddim i bawb dan 25 oed yng Nghymru, fel elfen allweddol o'r rhaglen adfer honno i bobl ifanc.

Mae tri maes rwyf am dynnu sylw atynt yn fyr. Yn gyntaf, wrth gyflwyno'r ddadl hon, hoffwn ystyried record fy mhlaid yn y maes hwn. Yn y bedwaredd Senedd, gwnaeth cyd-Aelodau o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sicrhau bod teithio consesiynol i bobl ifanc 16 i 18 oed yn rhan allweddol o'r trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, gan ymestyn y cynllun i bobl ifanc 21 oed yn ddiweddarach. Roedd hwn, mewn gwirionedd, yn bolisi a gyflwynwyd gan aelodau ifanc o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yng nghynhadledd ein plaid. Ac mae wedi bod yn llwyddiant, onid yw? Ar ddiwedd mis Hydref 2020, roedd tua 32,000 o gardiau Fy Ngherdyn Teithio gweithredol wedi'u dosbarthu a chyn y pandemig, gwnaed mwy nag 1.3 miliwn o deithiau am bris gostyngol. Mae menter TrawsCymru sy'n cynnig teithio am ddim ar benwythnosau, a oedd yn weithredol rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Mawrth 2020, hefyd yn dangos y gall prisiau gostyngol weithio, gyda chynnydd o fwy nag 81,000 o deithiau. Felly, os yw'r cynlluniau hynny'n gweithio i annog pobl i fanteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus, credaf y dylem edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i annog pobl i newid i drafnidiaeth gyhoeddus ac i leddfu pwysau ariannol. Rwy'n croesawu gwarant y Llywodraeth i bobl ifanc a byddwn yn ailadrodd sylwadau a wneuthum yn ystod datganiad y Gweinidog ynghylch sicrhau ei fod nid yn unig yn gynnig ystyrlon ond yn un y gall pobl ifanc ei gyrraedd.

Yn ail, mae gennym yr agwedd amgylcheddol. Mae trafnidiaeth yn allyrru 17 y cant o allyriadau carbon Cymru, y sector gwaethaf ond dau. Mae ceir preifat yn unig yn allyrru 7.7 y cant o'r ffigur hwnnw. A Chymru sydd â'r gyfran uchaf yn y DU o hyd o bobl sy'n teithio i'r gwaith mewn car, ac mae'r ffigurau hynny wedi aros yn sefydlog dros y 15 mlynedd diwethaf. Felly, gwyddom fod angen inni annog cynifer o bobl â phosibl i roi'r gorau i ddefnyddio cerbydau preifat. Rwy'n ymwybodol iawn fod gwir angen cyllid ychwanegol i'n galluogi i ddatgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ac yn wahanol i'r Alban, heb gronfa bwrpasol i gynorthwyo gweithredwyr bysiau i lanhau eu fflydoedd bysiau yn gyflym, bydd hon yn dasg anodd i weithredwyr. Rwy'n gobeithio y gall y Dirprwy Weinidog daflu rhywfaint o oleuni ar ba waith sy'n cael ei wneud i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer cyflawni hyn. Ond heb ymdrech ar y cyd, newid dulliau teithio ac agendâu datgarboneiddio, bydd gennym ffordd hir i fynd, gyda darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus mor amrywiol ledled Cymru.

Felly, mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â chymunedau yng nghefn gwlad Cymru. Nid ydym eisiau iddynt gael eu gadael ar ôl pan fo buddsoddiad wedi'i ariannu a'i gydlynu'n briodol mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Ar y mater hwn, rwy'n ddiolchgar i'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr am roi eu hamser yn gynharach y mis hwn i drafod yr heriau presennol sy'n wynebu'r diwydiant bysiau. Teithiau bws oedd tair o bob pedair taith ar drafnidiaeth gyhoeddus yn 2019, ond rydym yn dal i fod wedi gweld gostyngiad o 22 y cant yn nifer y teithiau bws rhwng 2008 a 2019. Mae llawer o resymau dros hynny, ond mae prydlondeb, amlder, llwybrau, ansawdd a chost i gyd yn ffactorau sy'n cyfrannu, ac mae'r rhain yn waeth mewn ardaloedd gwledig. Mae'n bwysig edrych ar arferion da ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, yn y DU a thramor, megis y gwasanaeth Ring a Link yng nghefn gwlad Iwerddon, yr asiantaeth symudedd yn yr Eidal, ac—rwy'n hoff o hwn—y Bürgerbus yn yr Almaen. Nid yw'n golygu yr hyn rydych yn ei feddwl.

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chynlluniau teithio lleol fod â dannedd ac adnoddau i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddibynadwy ac yn hygyrch i bawb—un rhwydwaith teithio cyhoeddus cydlynol ac ymatebol. A chan gyffwrdd ar drenau mewn ardaloedd gwledig, gallent fod yn opsiwn, ond mae cost ac effeithlonrwydd yn her. Eleni, gwelwyd y cynnydd mwyaf serth ym mhrisiau tocynnau trên yn y DU ers 2013, sy'n digwydd, fel y gwyddom ac fel y clywsom heddiw, wrth i gost biliau cartref hanfodol barhau i godi. Felly, argymhellwn y dylid cynnig teithio am ddim ar y rheilffyrdd i bobl ifanc pan fo teithiau'n dechrau ac yn dod i ben yng Nghymru—hynny yw, y rheini o dan reolaeth Trafnidiaeth Cymru.

Felly, i orffen, i grynhoi, argymhellwn ein bod yn gwneud teithio ar fysiau a threnau yn rhad ac am ddim i rai dan 25 oed yng Nghymru, a gofynnwn i'r Llywodraeth edrych ar sut y gellid cyflawni hyn a pha mor fuan. Edrychaf ymlaen at yr ymateb ac at weithio gyda'r Dirprwy Weinidog ar y mater hwn. Diolch yn fawr iawn.