Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:30, 19 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Mae ein cenhadaeth economaidd, ochr yn ochr â’n strategaeth cyflogadwyedd sydd ar y ffordd, yn nodi ein polisïau i gynyddu sgiliau, cynhyrchiant ac enillion i helpu i godi safonau byw yma yng Nghymru. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am lawer o’r ysgogiadau allweddol a mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw wrth gwrs, ond mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cronfa gymorth i aelwydydd gwerth £51 miliwn a grant caledi i denantiaid gwerth £10 miliwn, sy’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl Cymru.