Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch am eich cwestiwn. Rydym wedi sicrhau bod lefelau mwy nag erioed o gyllid ar gael i gefnogi busnesau Cymru drwy’r pandemig, gan gynnwys drwy'r gronfa cadernid economaidd unigryw sydd ar gael i Gymru’n unig. Bydd y pecyn cymorth brys diweddaraf—o'r gronfa cadernid economaidd yn unig—yn darparu hyd at £120 miliwn i'r busnesau y mae'r mesurau diogelu diweddaraf i ddiogelu iechyd y cyhoedd wedi effeithio arnynt.