Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 19 Ionawr 2022.
Mae’r Aelod wedi tynnu sylw at y pwynt fod cyflogau wedi bod yn gostwng mewn termau real, ac mae hwnnw’n bwynt y tynnodd Jayne Bryant sylw ato yn y cwestiwn cyntaf heddiw wrth gwrs—fod cyflogau gwirioneddol wedi gostwng. Mae'r ffigurau yn y dyddiau diwethaf yn peri cryn bryder. Dylai fod yn destun cryn bryder i bob un ohonom. Rwyf wedi tynnu sylw eisoes at rai o'r camau y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cymryd mewn meysydd lle credwn y dylai Llywodraeth y DU fod wedi gweithredu ond rydym ni wedi dewis gweithredu i geisio cefnogi teuluoedd. Os caf roi'r enghraifft o £51 miliwn a gyhoeddwyd gan Rebecca Evans a Jane Hutt, dylai'r cymorth rydym yn ei roi i helpu pobl i dalu hyd at £100 o fil tanwydd eu cartref dros y gaeaf helpu oddeutu 350,000 o gartrefi yng Nghymru. Nid yw'n fesur bach; mae'n rhoi cymorth i gryn dipyn o aelwydydd. Felly, rydym yn edrych ar ble mae gennym bwerau a ble mae ein hadnoddau'n ein galluogi i roi cymorth i deuluoedd.
Ar yr isafswm cyflog, rydym wedi dweud yn glir ein bod am i Gymru fod yn economi cyflog uchel. Rydym am weld y cyflog byw yn cael ei fabwysiadu mewn mwy o sectorau. Fe welwch hynny yn y ffordd y gweithiwn drwy'r sector cyhoeddus. Bydd gan y Gweinidog iechyd fwy i’w ddweud, wrth gwrs, am ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i sicrhau'r cyflog byw gwirioneddol yn y sector gofal cymdeithasol. Bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr i sector sy’n cyflogi nifer fawr o fenywod, yn aml mewn swyddi ar gyflogau isel. Ac wrth gwrs, mae hwnnw'n arian sy'n annhebygol o ddiflannu o'r wlad—mae'n arian sy'n debygol o gylchredeg a chael ei wario ar deuluoedd lleol ac ar swyddi lleol hefyd. Felly, rydym yn ceisio chwarae rôl arweiniol yn sicrhau bod cyflogau'n codi, ac yn sicr, rydym am weld cyflogau gweithwyr yn codi gyfuwch â chwyddiant, fan lleiaf. Ond mae pob un o’r pethau hynny dan fygythiad os bydd Trysorlys y DU yn gwrthod gweithredu. Rwy'n gobeithio y gellir datrys y materion eraill sy'n tynnu eu sylw ar ben arall yr M4, fel y gallwn gael Llywodraeth gyfrifol o’r diwedd gydag arweinwyr cyfrifol a gweddus sy’n cydnabod bod yr argyfwng costau byw wedi cyrraedd a bod angen gweithredu i fynd i'r afael ag ef.