Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 19 Ionawr 2022.
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich ateb, Weinidog, ac fel rydym wedi'i drafod y prynhawn yma, mae cynllun peilot pedwar diwrnod yn cael ei lansio yn y DU, mewn partneriaeth â'r felin drafod Autonomy a 4 Day Week Global. A gaf fi bwysleisio pwysigrwydd y treialon hyn ar gyfer dysgu, ac a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa sgyrsiau rydych chi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi'u cael gyda'r felin drafod Autonomy a 4 Day Week Global ynghylch cefnogi cyflogwyr Cymru a allai fod â diddordeb yn y treial hwn? O ystyried eich ateb i'r cwestiwn blaenorol, Weinidog, a wnewch chi hefyd ymrwymo i edrych ar ganfyddiadau'r treial hwn ac adrodd yn ôl i'r Senedd gyda golwg ar gynnal treial estynedig yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.