Wythnos Waith Pedwar Diwrnod

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:03, 19 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Gadewch imi fynd ag ef ychydig ymhellach. Weinidog, mae llawer o gyflogwyr eisoes yn cynnig amodau gwaith hyblyg, gan gydnabod y gall sefydliadau elwa'n aml iawn ar drefniadau sy'n ymateb i ffyrdd o fyw pobl, trefniadau teuluol a chyfrifoldebau. A yw'r Gweinidog wedi estyn allan at sefydliadau sy'n cynnig mwy o hyblygrwydd i ddeall tystiolaeth y manteision hynny, ac os felly, beth y mae'n ei ddweud wrtho? Diolch.