Creu Swyddi drwy Fewnfuddsoddi

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:09, 19 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, pe baem yn gallu cael gwaith gweithgynhyrchu bysiau trydan yng Nghymru, byddai hynny o fudd mawr i'n heconomi, o ran swyddi ac o ran yr amgylchedd. Yn Nwyrain Casnewydd, mae gennym CAF, fel y gwyddoch, sy'n cyflenwi trenau. Mae ganddynt hefyd allu i weithgynhyrchu bysiau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, ac rwy'n meddwl tybed a allai Llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau gyda CAF, gan fy mod yn gwybod bod ganddynt uchelgeisiau i sefydlu ffatri gweithgynhyrchu bysiau trydan ochr yn ochr â'u ffatri drenau ar hen safle Llan-wern yng Nghasnewydd.