Cyflogadwyedd Pobl Ifanc

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:14, 19 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'r warant i bobl ifanc wedi dechrau wrth gwrs, a bydd gennyf fwy i'w ddweud amdani wrth symud ymlaen, a'i chydrannau, yn ystod y misoedd nesaf. Rydym hefyd yn adolygu ein strategaeth cyflogadwyedd hefyd. Wrth gwrs, byddem yn gallu diwallu anghenion cyflogadwyedd disgwyliedig pobl ifanc yn well pe baem mewn sefyllfa i gael sicrwydd o gyllid newydd llawn yn lle hen gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd a oedd, wrth gwrs, yn cefnogi sgiliau ac ymyriadau eraill i helpu i wella'r rhagolygon i bobl ifanc yng ngogledd Cymru a thu hwnt.

Os gwnewch chi fy esgusodi am eiliad, rwyf am gau'r drws, gan nad oes angen i fy mab ymuno. [Chwerthin.]