Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch, Lywydd a Gweinidog. Diolch am y diweddariad hwnnw. Yn anffodus, mae 1,160 o bobl wedi marw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyda marwolaethau'n gysylltiedig â COVID-19. Mae dinasyddion Islwyn a Chymru wedi aberthu cymaint yn ein brwydr barhaus yn erbyn y feirws dieflig hwn yn ystod y pandemig. Dywedodd prif swyddog COVID Sefydliad Iechyd y Byd, David Nabarro, yr wythnos hon:
'O edrych arno o safbwynt y DU, mae'n ymddangos bod golau ar ben draw'r twnnel', ac nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru. Gyda chyfyngiadau COVID i'w llacio dros yr ychydig wythnosau nesaf, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyrraedd a pherswadio pobl sy'n dal heb gael eu hargyhoeddi ynglŷn â gwerth brechiad, ac a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau gwybodaeth cyhoeddus pellach i dargedu rhannau o'n cymdeithas sydd heb eu brechu, naill ai drwy ohebiaeth uniongyrchol, neu drwy negeseuon iechyd cyhoeddus newydd?