Cleifion yn yr Ysbyty gyda COVID-19

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 2:23, 19 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, er fy mod yn deall bod COVID wedi rhoi'r GIG yng Nghymru dan bwysau aruthrol, fel y mae ar hyn o bryd mae'r niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd COVID yn sefydlog. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog—. Mae etholwyr yn cysylltu â mi bob dydd, fel pawb ohonom mae'n siŵr, gydag etholwyr mewn poen yn meddwl tybed faint yn hwy y gallant ddal ati. Er enghraifft, Weinidog, mae gŵr 83 oed ag osteoarthritis wedi bod yn aros am lawdriniaeth ar y glun ers tair blynedd, ac mae'n byw mewn poen diddiwedd, yn meddwl faint yn hwy y gall ddal ati i fyw fel hyn. Weinidog, ni allwn barhau i oedi; roedd rhestrau aros yn llawer rhy hir cyn i'r pandemig daro. Gan ein bod bellach yn gweld niferoedd COVID yn gostwng a chyfraddau ysbytai'n sefydlog, a allwch bwyso i sicrhau bod llawdriniaeth ddewisol yn ailddechrau, er mwyn rhoi rhywfaint o obaith i bobl? Diolch.