Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr iawn, Joel. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau'r GIG asesu rhwystrau i fynediad at ofal iechyd sy'n effeithio ar bobl sy'n drwm eu clyw yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. Cyflwynir adroddiadau blynyddol i'w hasesu, sy'n manylu ar y cyflawniadau a wnaed tuag at weithredu safonau Cymru gyfan ar gyfer darparu gwybodaeth hygyrch i bobl â nam ar eu synhwyrau a chyfathrebu â hwy.