Lefelau Trosglwyddo COVID-19

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 2:51, 19 Ionawr 2022

Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r camau rŷch chi wedi'u hamlinellu yn eich ateb. Mae'r pandemig wedi datgelu'n glir yr anghydraddoldebau sosio-economaidd sy'n bodoli yn ein cymdeithas, ac yn wir wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau hyn. Mae'r anghydraddoldebau hyn hefyd yn rhai iechyd, gyda pherthynas glir yn bodoli rhwng sefyllfa sosio-economaidd rhywun ac effaith COVID arnynt. Mae ffigurau o Loegr yn dangos bod pobl sy'n byw mewn cymunedau sy'n cael eu disgrifio fel rhai left behind 46 y cant yn fwy tebygol o farw o COVID o'i gymharu â rhai nad ydynt yn byw yn y cymunedau hyn, ac fe ddatgelodd adroddiad 'Locked Out' yng Nghymru fod ffactorau sosio-economaidd yn chwarae rhan allweddol yn niferoedd uwch y marwolaethau ymhlith pobl anabl a'r effaith ar eu hiechyd a'u gofal o gymharu â gweddill y boblogaeth o ganlyniad i COVID. Mae'n glir felly fod angen i bolisi iechyd y Llywodraeth i'r dyfodol wneud mwy i unioni'r anghydraddoldebau hyn wrth i ni barhau i fynd i'r afael â lefelau COVID a'i effaith, gan gynnwys COVID hir. A all y Llywodraeth felly sicrhau bod unrhyw gamau newydd i daclo trosglwyddiad ac effaith COVID yn ymgorffori strategaethau clir i daclo'r anghydraddoldebau iechyd hyn? Diolch.