Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch. Nododd adolygiad o wasanaeth anhwylderau bwyta Llywodraeth Cymru yn 2018 weledigaeth uchelgeisiol yn seiliedig ar ymyrraeth gynnar, triniaethau seiliedig ar dystiolaeth a chymorth i deuluoedd. Chwaraeodd yr elusen anhwylderau bwyta Beat ran allweddol yn yr adolygiad hwn. Canfu adolygiad Beat, 'The Welsh Eating Disorder Service Review: 3 years on', a gyhoeddwyd yr wythnos hon, fod cynnydd tuag at gyflawni’r weledigaeth honno yn amrywio’n fawr ledled Cymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru, yn unol ag argymhelliad Beat, gyhoeddi model gwasanaeth neu fframwaith newydd, i gynnwys amserlenni sy’n nodi’r hyn y byddent yn ei ddisgwyl gan y byrddau iechyd? Os felly, pryd fyddech yn disgwyl i hyn ddigwydd?