Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ers dechrau'r pandemig, gwelsom feddygfeydd meddygon teulu yn newid y ffordd y maent yn gweithredu yn llwyr. Yn y Rhondda, mae hyn wedi golygu cynnydd anferth yn nifer y trigolion y mae meddygon teulu yn eu cynnal. Ni fydd angen cymorth meddygol ar tua 20 y cant o'r trigolion hyn ac yn hytrach byddant yn elwa o bresgripsiynu cymdeithasol. Yn ddiweddar, ymwelais â Men's Shed yn Nhreorci, sy'n darparu gwasanaeth amhrisiadwy ar ben uchaf y Rhondda Fawr, ochr yn ochr â meddygfa Forest View a chymdeithas dai leol. Gwyddom fod presgripsiynu cymdeithasol yn gweithio ac wedi newid bywydau llawer o bobl. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau lluosog i sicrhau bod presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei gyflwyno ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac nid mewn pocedi bach yn unig, fel y gall cymaint o'r trigolion sydd angen y cymorth penodol hwn elwa ohono?