Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ymateb hwnnw. Mae'n ddifyr iawn, oherwydd mae etholwraig i mi wedi bod mewn cyswllt â'r swyddfa yn sôn ei bod hi bellach, oherwydd problemau anadlu, yn gorfod cael peiriant CPAP yn ei hystafell wely. Oherwydd hyn, mae hi wedi derbyn cyngor gan y tîm anadlu yn yr ysbyty bod angen iddi ddarparu—iddi hi'n bersonol, felly, ddarparu—mygydau FFP3 i'w gofalwyr. Mae hi felly wedi cysylltu â'r meddyg teulu, a'r meddyg teulu wedi dweud wrthi hi mai cyfrifoldeb y gwasanaethau cymdeithasol oedd hyn. Yna, yn eu tro, mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi dweud wrthi hi mai cyfrifoldeb y meddyg teulu oedd darparu yr offer yma. Mae'n offer drud iawn i unigolion, a dydy hi ddim yn medru fforddio prynu yr offer yma bob tro mae rhywun yn ymweld. Fedrwch chi felly gadarnhau y cymysgedd yma i fy etholwraig, i sicrhau bod pobl yn gwybod sut maen nhw'n cael yr offer a phwy sydd i fod i'w darparu, os gwelwch yn dda?