Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 19 Ionawr 2022.
Weinidog, er bod y mesurau mwyaf llym i leihau trosglwyddiad COVID-19 ar waith yma, Cymru sydd â'r cyfraddau heintio uchaf o blith pedair gwlad y DU ac un o'r cyfraddau marwolaeth uchaf yn y byd fesul y pen o'r boblogaeth. A yw eich Llywodraeth bellach yn derbyn bod yr ymyriadau anfferyllol yn gwneud mwy o ddrwg nag o les erbyn hyn? A chyda dros 90 y cant o boblogaeth Cymru, yn ôl eich prif swyddog meddygol, yn cario gwrthgyrff COVID-19, a ydych yn derbyn bod yn rhaid inni ddysgu byw gyda COVID yn awr, yn hytrach na chanolbwyntio ein hymdrechion ar sut i'w atal?