Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 19 Ionawr 2022.
Rwy'n bryderus iawn nad oedd y penderfyniad i ymestyn yr amser rhwng sgriniadau canser ceg y groth o dair i bum mlynedd wedi ei hyrwyddo yn y ffordd gywir a gofalus roedd ei hangen i sicrhau bod hanner poblogaeth Cymru yn cael eu haddysgu'n briodol ar y newidiadau hynod arwyddocaol hyn. Roedd y ffordd y torrwyd y newyddion i fenywod ar hyd a lled ein gwlad yn gywilyddus, gyda phennawd bachog ar y cyfryngau cymdeithasol yn arwain at banig. Nid yw hwnnw'n ddefnydd gwael o'r gair; cafwyd panig ymhlith menywod a theuluoedd ledled Cymru oherwydd, fel y nododd Mr Sargeant yn gynharach, cawsom ein dysgu ers blynyddoedd am yr amseru a pha mor bwysig yw yn dal canser ceg y groth cyn gynted â phosibl.
Roedd y diffyg gwybodaeth a ddilynodd y pennawd bachog hwnnw'n rhagdybio bod pawb yn gwybod pam fod hyn yn digwydd, y byddai pawb yn gwybod bod y newid yn digwydd o ganlyniad i ddatblygiad cadarnhaol mewn gwyddoniaeth, yn hytrach nag estyniad brawychus o ddwy flynedd pan na fyddai modd sgrinio menywod fel y caent eu sgrinio'n flaenorol a phan na fyddai celloedd canser yn cael eu canfod. Mae pobl yn gwybod yn iawn, pan fyddwch yn cael diagnosis, y gall hynny olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth—dyna sut y cawsom ein dysgu. Achosodd y diffyg gwybodaeth gan y Llywodraeth hon ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddatblygiad a newid mor bwysig bryder a gofid ar draws ein gwlad, a phryder am ddatblygu canser ceg y groth a pheidio â'i ddal mewn pryd. Ac i deuluoedd hefyd roedd panig, yn enwedig y rhai sydd wedi colli pobl i ganser ceg y groth.
Mae'n dod â rhywfaint o gysur i mi fod Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo a Cancer Research UK yn cefnogi'r newid hwn, fel yr amlinellir heddiw. Ond mae angen tynnu sylw menywod at hyn a'r rhesymau drosto. Oherwydd bod y cyfathrebu mor warthus ar hyn, rhaid imi gyfaddef fy mhanig fy hun i ddechrau wrth glywed y newyddion. A gallaf gofio'r sefyllfa ofnadwy a ddioddefodd Jade Goody, un o gyn sêr Big Brother i'r rhai nad ydynt yn gwybod, tra'n dioddef o ganser ceg y groth. Cafodd amser erchyll o fod wedi methu ei ddal yn ddigon cynnar; nid aeth i'w sgriniadau. Ac o ganlyniad bu farw—o, mae'n fy nhristau—gan adael ei dau fachgen ifanc ar ôl. Roedd yn emosiynol iawn. Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf am grio, ond roedd yn ymgyrch a chyfnod emosiynol, a'r hyn a ddigwyddodd o hynny, o ganlyniad, oedd bod nifer fawr o fenywod, nad oeddent hyd yn oed wedi meddwl amdano—nid oedd wedi bod ar eu radar hyd yn oed—wedi mynd i gael eu profi. Roedd yn drawmatig iawn ar y pryd, ac yn amlwg, mae'n dal i fod felly. Ond roedd hi'n ddewr iawn, a defnyddiodd ei statws fel seren er daioni, ac aeth â phawb ar y daith honno gyda hi tan ei marwolaeth drist. Fe barodd i lawer o fenywod weithredu, a chynyddodd y nifer a aeth am brawf ceg y groth yn sylweddol. Roedd yr ymgyrch gyhoeddusrwydd a ddilynodd yn llwyddiant ysgubol, a gofynnaf i Lywodraeth Cymru ystyried gwneud rhywbeth tebyg.
Mae'n amlwg fod angen ymgyrch sylweddol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn awr, yn enwedig o ystyried y neges glir yn sgil y ffaith bod dros filiwn o bobl wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r newid hwn. Mae hyn yn dweud wrthyf fod llawer iawn mwy o fenywod allan yno o hyd sydd angen gwybod y rhesymau am y newid hwn o dair i bum mlynedd. Roedd ymddiheuriad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wych, ond bydd llawer o fenywod allan yno na fyddant wedi gweld yr un postiad hwnnw ar y cyfryngau cymdeithasol a byddant yn dal i fethu deall pam y mae'r newidiadau arwyddocaol hyn wedi digwydd a'r hyn a olygant.
Pan gafodd y rhesymau dros newid eu rhoi i mi, daeth â pheth cysur i mi ar y dechrau—nid yn gyfan gwbl, oherwydd ceir enghreifftiau, fel y gwelwyd ar y cyfryngau cymdeithasol, fel y mae eraill wedi'u gweld, rwy'n siŵr. Mae yna bobl sy'n dal i lithro drwy'r rhwyd oherwydd, gyda'r newid, bydd rhai pobl yn datblygu celloedd canseraidd na chaiff eu canfod o fewn y ffrâm amser honno. Ond i'r mwyafrif, bydd y datblygiad technolegol hwn yn golygu y bydd celloedd HPV yn cael eu canfod yn gynt, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. A bydd yn golygu i'r rhan fwyaf o bobl y bydd ganddynt fylchau hwy yn awr rhwng sgriniadau, sy'n hollol iawn. Ond mae'n rhaid inni sicrhau'n bendant nad ymarfer torri costau yw hwn, fel y dywedodd Jack, ac y bydd hi 100 y cant yn ddiogel inni wneud hyn.
Weinidog, mae llawer o bryderon o hyd, oherwydd fel y dywedais yn gynharach, gall y feirws orwedd yn segur am flynyddoedd lawer heb fod unrhyw arwydd na symptom o haint. Ac er fy mod wedi gweld llawer o negeseuon e-bost ynghylch sgrinio canser serfigol gan etholwyr dros y pythefnos diwethaf, daliodd un yn arbennig fy sylw. Daeth gan fenyw 30 oed a oedd wedi datblygu canser ceg y groth cam 1, a oedd, diolch byth, wedi ei ganfod yn ei thrydydd prawf ceg y groth. Pe bai'r prawf hwnnw wedi'i ohirio am ddwy flynedd arall, mae'n debyg y byddai'r canser wedi datblygu a gallai fod wedi ei gwneud yn anffrwythlon neu ei lladd.
Mae llawer o waith i'w wneud o hyd—