Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 19 Ionawr 2022.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r newid diweddar yn y trefniadau sgrinio serfigol yng Nghymru wedi bod o gryn ddiddordeb i'r cyhoedd. Mae'r ddeiseb hon i'r Senedd, 'Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd' wedi casglu 30,133 o lofnodion mewn tri diwrnod yn unig, ac mae deiseb debyg ar blatfform change.org wedi derbyn dros 1.2 miliwn o lofnodion hyd yn hyn. Lywydd, i roi hyn mewn persbectif, mae hynny dros 100,000 yn fwy o bobl nag a bleidleisiodd yn etholiadau'r Senedd fis Mai diwethaf. Mae hyn yn gwbl ryfeddol ac mae'n dangos cryfder y teimladau a'r pryderon ynghylch iechyd menywod yng Nghymru.
Nid wyf yn esgus bod yn arbenigwr meddygol, ond yr hyn sy'n amlwg i mi yw bod menywod ledled Cymru eisiau ac yn haeddu atebion. Mae’r deisebydd, Joanne Stroud, yn angerddol ynglŷn â phwysigrwydd sgrinio rheolaidd, ac mae’n falch fod proses ddeisebau’r Senedd wedi sicrhau y bydd ei llais yn cael ei glywed ar lawr y Siambr hon heddiw. Mae ei deiseb yn cynrychioli ofnau, siom a gofid miloedd o fenywod ynglŷn â sut a pham y digwyddodd y newid hwn. Felly, Lywydd, fe wnaethom ofyn i’r deisebydd gau’r ddeiseb ar ôl tridiau yn unig, er mwyn ei chyflwyno i'r Pwyllgor Deisebau yr wythnos diwethaf, ac fe wnaethant gytuno i ofyn iddi gael ei hystyried ar gyfer dadl ar unwaith. Rwy’n ddiolchgar i’r Llywydd ac aelodau’r Pwyllgor Busnes am ei gwneud hi'n bosibl cynnal y ddadl hon heddiw, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i’r Ceidwadwyr Cymreig am gynnig peth o’u hamser yn y trafodion heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd, ar ran y pwyllgor, i Gareth a Mared a’r tîm clercio ehangach am eu holl waith ar y ddeiseb bwysig hon.
Ddechrau mis Ionawr, ymestynnodd Sgrinio Serfigol Cymru y cyfnod sgrinio arferol ar gyfer pobl 25 i 49 oed o dair i bum mlynedd. Argymhellwyd y newid gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn 2019 oherwydd llwyddiant y broses o gyflwyno’r brechlyn feirws papiloma dynol a'r defnydd o, a dyfynnaf, sgrinio serfigol ‘mwy cywir’. Cyhoeddwyd hyn ar 4 Ionawr a ffrwydrodd storm ar y cyfryngau cymdeithasol—yn herio, cwestiynu a cheisio eglurhad ynghylch pam y byddai cyfnod hwy rhwng sgriniadau serfigol sy'n gallu achub bywydau. Dylai penderfyniad a newid mor bwysig fod wedi cael ei esbonio’n ofalus ac yn llawn a’i gyfathrebu'n effeithiol i bob menyw yng Nghymru. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ardderchog ar gyfer llawer o bethau, ond ni ddylid bod wedi'u defnyddio fel y ffordd o gyhoeddi mater mor bwysig.
Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon heddiw yn rhoi cyfle i wrando ar y pryderon sydd gan fenywod yng Nghymru, ac i glywed ffeithiau ynghylch pam fod y newidiadau wedi’u gwneud i’r fframwaith sgrinio. Bydd llawer o fenywod heb gael cynnig y brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) hynod effeithiol, a gyflwynwyd yn 2008. Iddynt hwy, y cwestiwn allweddol yw a yw’n bosibl dod i gysylltiad â HPV a bod problemau yn datblygu yn y bwlch pum mlynedd rhwng sgriniadau. Gwn y bydd llawer ohonoch wedi darllen e-byst pryderus tebyg i’r rhai a gefais gan fenywod yn fy etholaeth sy’n teimlo eu bod yn dioddef yn sgil mesurau torri costau ac arbed amser mewn cyfnod o bwysau aruthrol ar ein GIG.
Lywydd, yn ei deiseb, mae Joanne yn datgan ei phryderon fod y newidiadau pwysig hyn wedi’u gwneud heb ymgynghoriad cyhoeddus, gan nodi mai’r ymateb i’r cyhoeddiad ar 4 Ionawr oedd, a dyfynnaf,
'dicter, tristwch a phryderon difrifol am iechyd serfigol menywod Cymru.'
Mae’n rhannu pryderon a chwestiynau miloedd o bobl yng Nghymru ynglŷn ag a fyddai’r newid hwn yn arwain at ganfod canserau yn hwyrach, gan arwain at driniaeth, a dyfynnaf eto,
'fwy ffyrnig, hir a chostus' a fydd yn bygwth bywydau yn y pen draw.
Mae’r pryderon hyn wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y cyhoeddiad ddechrau’r mis. Ac fel y soniais ar ddechrau fy nghyfraniad, mae dros filiwn o bobl wedi llofnodi deiseb debyg ar change.org, yn pwysleisio’r ofnau gwirioneddol, y pryder gwirioneddol a’r trallod gwirioneddol sy’n deillio o’r cyhoeddiad, a wnaed heb ddigon o eglurder nac esboniad ynghylch pam y gwnaed y newid.
Rwy’n falch o weld bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymddiheuro ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gydnabod na wnaethant ddigon i egluro’r newidiadau, a greodd gymaint o ddryswch a chymaint o bryder. Ers hynny, maent wedi darparu mwy o wybodaeth i egluro'r penderfyniad ac wedi ceisio tawelu meddyliau menywod. Roedd eu strategaeth gyfathrebu yn amlwg yn ddiffygiol a dweud y lleiaf, a hoffwn alw arnynt i ystyried yn ofalus ac adolygu eu polisi ar gyfer y dyfodol. Mae gwybodaeth glir o ansawdd uchel yn hanfodol wrth rannu gwybodaeth a negeseuon mor bwysig. Wrth gyfathrebu â thrigolion, dylech wneud yn union hynny. Onid yw yn apwyntiadau nesaf pawb? Oni fyddai hynny wedi bod yn llawer haws, ac onid dyna'r adeg i rannu'r neges bwysig hon?
Mae'n rhaid imi ddweud fy mod hefyd yn siomedig na chafodd newid mor arwyddocaol o ran iechyd y cyhoedd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar lawr ein Senedd cyn y newidiadau.
Drwy gydol eu hoes fel oedolion, mae menywod wedi cael gwybod am beryglon gohirio profion ceg y groth, y gallai ymweliad sydyn â'r meddyg bob tair blynedd wneud byd o wahaniaeth. Ni ddylai fod yn syndod fod cyhoeddi oedi o ddwy flynedd drwy Twitter wedi achosi cymaint o ddicter. Dylem ni, fel Aelodau o’r Senedd, fel eu cynrychiolwyr, fod wedi cael cyfle i drafod eu hofnau a’u pryderon yn agored, ac i’r Gweinidog egluro’r rhesymau sy'n sail i’r newid.
Weinidog, darllenais yr adroddiadau gan weithwyr meddygol proffesiynol gyda chryn ddiddordeb y bore yma, ac roeddent yn tynnu sylw at y brechlyn fel datblygiad hollbwysig, ac rwy’n derbyn hyn. Byddwn yn falch pe baech yn defnyddio eich ymateb i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr am ganran y menywod yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu. Hoffwn eich annog hefyd i ddefnyddio eich ymateb i fynd i’r afael â’r gwactod gwybodaeth a ddeilliodd o'r ffordd y cafodd hyn ei gyhoeddi, ac yn y gwactod hwnnw, rwy’n ymwybodol o fenywod ifanc ledled Cymru sydd wedi cael eu targedu gan hysbysebion Facebook yn eu hannog i dalu £500 am y brechlyn. Mae hyn wedi fy mhoeni'n fawr.
Lywydd, cyn imi gloi, hoffwn ddiolch i Joanne am gyflwyno'r ddeiseb i’r Senedd fel bod y pryderon pwysig hyn ynglŷn ag iechyd menywod yn cael eu trafod yma yn ein Senedd heddiw. Ceir oddeutu 166 o achosion newydd o ganser ceg y groth yng Nghymru bob blwyddyn yn ôl Cancer Research UK. Mae sgrinio i ganfod pwy sydd mewn perygl neu sydd â chanser yn hanfodol. Gall achub bywydau, gan sicrhau bod menywod neu bobl â serfics yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt.
Drwy gyd-ddigwyddiad, cynhelir ddadl hon yn ystod Wythnos Atal Canser Ceg y Groth, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cyfrannu at y gwaith o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a manteision sgrinio serfigol. Ceir llawer o bobl nad ydynt yn manteisio ar gyfleoedd sgrinio am wahanol resymau. Mae angen i bob un ohonom gefnogi’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac anelu at gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar gyfleoedd sgrinio er mwyn diogelu bywydau.
Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma, ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog, a hyderaf y bydd yn ateb cwestiynau’r nifer o fenywod a lofnododd y ddeiseb hon, a deisebau tebyg. Diolch yn fawr.