Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Ac yn gyntaf, gadewch imi ddweud cymaint rwy'n cydymdeimlo â'r holl bobl, y miloedd lawer, sydd wedi siarad am eu pryderon dwfn am y newid yn y trefniadau sgrinio canser ceg y groth. Mae sgrinio, wrth gwrs, wedi dod yn rhan werthfawr o'r arfogaeth ataliol ym maes iechyd menywod, ac mae llawer o fywydau wedi'u hachub drwy ddiagnosis cynnar yn deillio o'r rhaglen sgrinio. Ac fe achosodd y cyhoeddiad sydyn y byddai profion bob tair blynedd yn newid yn brofion bob pum mlynedd gymaint o ofid a phryder i bobl. A rhaid imi ddweud, fy ymateb i oedd anghrediniaeth: ai dyma ganlyniad y pwysau presennol ar y GIG, canlyniad arall systemau dan straen?
Ond wrth geisio dysgu mwy am y newid, yr hyn a ddaeth yn amlwg yw ein bod yn sôn nid am israddio'r mesur diogelu iechyd amhrisiadwy hwn, ond am fethiant difrifol i gyfathrebu newid sy'n newid cywir mewn gwirionedd, a newid y dylem ei ddathlu fel cam ymlaen mewn gofal iechyd ataliol. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r sefydliadau, Cancer Research UK ac Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo yn benodol, am gamu i mewn gydag esboniadau ynglŷn â pham y mae'n newid cadarnhaol, pam y mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu bod profi am y feirws HPV, sy'n achosi'r mwyafrif llethol o ganserau serfigol, yn caniatáu inni ganfod yr hyn a allai arwain yn y pen draw at fwy o risg, yn ddigon cynnar mewn gwirionedd i ganiatáu pum mlynedd rhwng profion os na cheir tystiolaeth o HPV. Yn y gorffennol, roedd sgrinio'n edrych am newidiadau mewn celloedd, dechrau canser; yn awr gallwn ddod o hyd i arwyddion cynharach o'r hyn a allai arwain ato yn y pen draw a chaniatáu felly ar gyfer ymyrraeth fwy amserol.
Nawr, a gaf fi dynnu sylw'r Aelodau at y datganiad barn a gyflwynais yr wythnos hon, yn dilyn trafodaeth gydag Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo, i nodi ei bod hi'n Wythnos Atal Canser Ceg y Groth yr wythnos hon, a mynegi eto pa mor hanfodol yw sgrinio? Mae'r datganiad yn mynegi gofid fod newidiadau diweddar i'r rhaglen sgrinio serfigol—y ffordd y cawsant eu cyfathrebu—wedi achosi pryder a dryswch, ac yn annog Gweinidogion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i flaenoriaethu gwaith i adfer hyder yn y rhaglen drwy gyfathrebu clir ac uniongyrchol i ateb y pryderon sydd gan gynifer o bobl. Nawr, rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd yr wythnos cyn diwethaf, rwy'n credu, i ofyn i'r cyfathrebu uniongyrchol hwnnw ddigwydd. Mae'n rhaid iddo ddigwydd. Mae'r ffordd yr ymdriniwyd â'r newid hwn gan Lywodraeth Cymru a'i hasiantaethau wedi achosi cryn dipyn o bryder, a mater i'r Llywodraeth a'i hasiantaethau yw unioni hynny.
Nawr, gobeithio y bydd hon yn wers go iawn ynglŷn â phwysigrwydd cael cyfathrebu'n iawn, ac ar yr un pryd, gobeithio y bydd yn ein hatgoffa ynghylch pwysigrwydd sgrinio. Rhaid inni annog mwy o bobl i ddod i gael eu sgrinio, fel y gallwn fod yn hyderus y gall cynifer o fenywod â phosibl roi cyfle iddynt eu hunain gael diagnosis cynnar.