6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfyngiadau COVID

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:16, 19 Ionawr 2022

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Sylwadau digon byr, dwi'n meddwl, sydd eu hangen gen i heddiw. Mae'n amlwg bod y cynnig yma wedi dyddio braidd. Mae o'n galw am gyfres o bethau sydd eisoes yn digwydd, felly ymatal byddwn ni heddiw. Mae hindsight yn rhyfedd o beth, onid ydy? A gwrando ar Russell George yn fanna rŵan yn dyfarnu ar rywbeth wythnosau lawer wedi'r dystiolaeth oedd yn cael ei chyflwyno inni ar y pryd ynglŷn â'r bygythiad yr oedd y gwyddonwyr sydd yn cynghori'r Llywodraeth yn meddwl yr oedden ni yn ei wynebu ar y pwynt hwnnw, ac yn dod i gasgliadau yn seiliedig ar yr hyn roedd ganddyn nhw o'u blaenau nhw—. Ac mae'r awgrym efallai y dylai Cymru ddim fod wedi cymryd camau oherwydd bod Lloegr yn cymryd agwedd mwy cavalier yn od iawn i mi. Gwarchod pobl Cymru a gwasanaeth iechyd Cymru ydy gwaith Llywodraeth Cymru, ac, yn gyffredinol hefyd, mae'n rhaid nodi bod pobl yn mynd i ffeindio hi'n anodd iawn cymryd gwersi gan blaid y partïon yn Downing Street ynglŷn â sut i—