6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfyngiadau COVID

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:19, 19 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rhun, rwyf mewn penbleth, oherwydd hyd y gwn i, a'r ddadl rydym wedi'i gwneud fel Ceidwadwyr Cymreig yw nad oeddem wedi gweld cell cyngor technegol ar y pryd—ni welsom unrhyw dystiolaeth ar y pryd. Felly, os gwelwch yn dda, cofnodwch y dystiolaeth a oedd yno nad ydym ni fel Aelodau etholedig, rywsut, wedi cael gwybod amdani.