7. Dadl Plaid Cymru: Costau byw

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 19 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:57, 19 Ionawr 2022

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae ein cynnig y prynhawn yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu brys i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw sy'n bwrw teuluoedd Cymru. Mae'n argyfwng sy'n pwyso ar aelwydydd ar draws y Deyrnas Gyfunol ond Cymru fydd, a sydd, yn cael ei bwrw waethaf gan y storm economaidd a'r niwed cymdeithasol enbyd fydd yn deillio ohoni yn sgil y ffaith mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o dlodi incwm cymharol a'r lefel uchaf o dlodi plant o'i gymharu â phob ardal arall yn y Deyrnas Gyfunol. Mae un ym mhob pedwar person yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Pobl Cymru, Dirprwy Lywydd, sydd yn llygad y storm.

Mae Plaid Cymru wedi adrodd ac ailadrodd yr ystadegau brawychus a chywilyddus am lefelau tlodi a'i effaith ar deuluoedd Cymru dro ar ôl tro yn y Siambr. Pan gawsom ddadl ar gostau byw a dyledion cyn y Nadolig, nodais sut yr oedd nifer yr aelwydydd oedd yn cael trafferth talu am gost eitemau pob dydd yn cyfateb i nifer yr aelwydydd yn Abertawe gyfan, a dim ond cynyddu mae'r ffigwr yma, gyda Sefydliad Bevan yn adrodd bod bron i 40 y cant o aelwydydd Cymru yn methu â thalu am unrhyw beth y tu hwnt i hanfodion bywyd. Nawr mae'n ymddangos na fydd modd i ormod o bobl hyd yn oed fforddio gwneud hynny, yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu tai neu roi bwyd yn eu boliau, yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain.

Mae'r ffeithiau yn hysbys inni gyd erbyn hyn ac, erbyn hyn, mae corff sylweddol o ymchwil a thystiolaeth gan wahanol fudiadau yn cadarnhau'r rhagolygon a rhybuddion. Mae adroddiad newydd Sefydliad Joseph Rowntree ar dlodi yn cadarnhau mai teuluoedd Cymru sy'n mynd i ddioddef y caledi a ddaw yn sgil yr argyfwng costau byw waethaf. Ac mae'r darlun yn dal i waethygu wrth i brisiau tanwydd saethu yn sydyn i lefel gwbl anfforddiadwy i ormod o bobl, ac yn debyg o aros ar lefel uchel am gyfnod hir; wrth i lefel chwyddiant godi i'r lefel uchaf ers degawd, a'r disgwyl yw y bydd yn codi'n uwch eto; wrth i gostau byw fod ar eu huchaf ers 30 mlynedd; wrth i gyflogau ar gyfartaledd aros yn eu hunfan, ond gostwng i'r rhai ar y lefelau incwm isaf; wrth i ddyledion aelwydydd gynyddu; wrth i yswiriant cenedlaethol gynyddu; ac rŷm ni wedi trafod droeon sut mae penderfyniad gwarthus Llywodraeth Dorïaidd San Steffan i dorri'r cynnydd o £20 i'r taliad credyd cynhwysol wedi bod yn drychineb i aelwydydd Cymru. Mae'n siŵr bod nifer ohonoch chi wedi clywed straeon torcalonnus gan deuluoedd yn eich cymunedau chi sydd wedi'i cael hi'n anodd i gael dau ben llinyn ynghyd. Y neges dwi'n ei chlywed yn aml yw, 'Byddwn i'n hoffi eu gweld nhw yn trio byw yn ein byd ni.'

Ydyn, mae llawer o'r grymoedd sydd eu hangen i warchod pobl Cymru rhag yr argyfwng yma yn gorwedd yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Rwy'n gwybod bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn erfyn arnynt i weithredu, ond bod sefyllfa pobl Cymru yn cael ei hanwybyddu gan San Steffan. Yr hyn mae Plaid Cymru yn galw amdano heddiw yw modd newydd o weithredu gan Lywodraeth Cymru, a chydnabyddiaeth glir bod y sefyllfa argyfyngus sydd ohoni yn un nas gwelwyd ei thebyg ers degawdau, ac y bydd ei heffeithiau yn rhai a fydd yn creithio cymunedau Cymru nid yn unig heddiw ac yfory, ond ymhell i'r dyfodol, ac felly bod angen gweithredu ar frys.

Mae rhai mesurau yn barod wedi'u cynnwys yn y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, fel ymestyn cinio ysgol am ddim i bob plentyn cynradd, ac ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn o ddwy flwydd oed, ond mae mwy y gellid ei wneud, mwy y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig. Byddai cynnal uwchgynhadledd i ddadansoddi'r dystiolaeth a chynnig datrysiadau polisi posibl i'r argyfwng costau byw yn gam cyntaf, a allai gynhyrchu strategaeth bwrpasol drawslywodraethol i fynd i'r afael â'r argyfwng yn y tymor byr a'r tymor canolig.