Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch. Dim ond ymyriad byr iawn. Mae llawer o etholwyr i mi wedi lleisio pryderon penodol ynghylch prisiau ynni cynyddol. Rydym yn sôn am bobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. A yw'r Aelod yn cytuno mai un broblem rydym yn debygol o'i hwynebu fwy a mwy yw nad yw pobl yn gallu coginio neu wresogi bwyd am na allant fforddio'r prisiau ynni? A gwyddom pa mor niweidiol fydd hi os yw pobl yn methu cael pryd poeth rheolaidd.