Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 19 Ionawr 2022.
Clywais y Ceidwadwyr yn dweud yn y Senedd eu bod yn credu mai'r ffordd allan o dlodi yw drwy weithio eu ffordd allan, ond mae llawer o bobl sy'n gweithio yn byw mewn tlodi neu'n ei chael yn anodd dod o hyd i waith gweddus sy'n cyd-fynd â gofal plant. Yn aml, mae oriau hir disgwyliedig o waith a phatrymau shifft yn erchyll, a bu'n ras i'r gwaelod ar safonau cyflogaeth, cynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ar draul y gweithiwr. Yng Nghymru, y gwasanaethau cyhoeddus yw un o'r cyflogwyr mwyaf, gyda gweithwyr gofal, cynorthwywyr addysgu a phorthorion ysbytai, ond torrwyd cyllid gwasanaethau cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn am 10 mlynedd o 2010 ymlaen gan effeithio ar hynny, ar gyllid gwasanaethau cyhoeddus.
Gyda'r rhagfynegiadau'n dangos y bydd prisiau ynni'n codi 50 y cant pan godir y cap ym mis Ebrill, ychydig o aelwydydd ledled Cymru fydd yn osgoi teimlo'r pwysau eleni. Ni allai'r toriad i'r credyd cynhwysol ddod ar adeg waeth, pan fo eisoes yn anodd iawn cydbwyso cyllid y cartref. Diolch i ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, mae llawer o'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn cael achubiaeth i ymdrin â phwysau uniongyrchol, ond mae angen atebion mwy hirdymor.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Cyngor ar Bopeth yn sir Ddinbych i glywed am y gwaith y maent yn ei wneud ar gynorthwyo teuluoedd i gynyddu incwm, ymdrin â dyled a lleihau biliau'r cartref, a hoffwn rannu heddiw rai o'r heriau y nododd Cyngor ar Bopeth y gellid mynd i'r afael â hwy fel rhan o gynllun argyfwng costau byw wrth symud ymlaen. Yn gyntaf, mae angen inni fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb o ran mynediad at ynni fforddiadwy. Ar hyn o bryd, mae sgôr effeithlonrwydd ynni stoc tai awdurdodau lleol yn amrywio'n fawr. Clywais gan un o'r trigolion y mae ei wresogyddion stôr hen ffasiwn yn costio £8 y dydd iddo allu cadw'n gynnes. Mae'r rhai sy'n byw mewn llety rhent preifat hefyd yn aml yn wynebu gorfod talu mwy na'u siâr i wresogi cartrefi wedi'u hinswleiddio'n wael â systemau gwresogi aneffeithlon. Mae angen mynd i'r afael â materion fel hyn ar frys, a gobeithio y bydd y broses o gyflwyno'r rhaglen ôl-osod yn parhau'n gyflym.
Ar ben hyn, mae llawer o denantiaid yn cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu, sydd i bob pwrpas yn ychwanegu premiwm tlodi at gost ynni, gan stigmateiddio pobl mewn llety rhent. O ystyried y datblygiadau yn nhechnoleg mesuryddion, mae'n ymddangos yn gwbl anghyfiawn y dylai rhywun ar fesurydd rhagdalu dalu mwy am yr hyn y maent yn ei ddefnyddio.
Mae angen inni sicrhau hefyd fod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth Advicelink a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn darparu cyngor am ddim ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys lles, ond hoffwn weld mwy o arian ar gyfer ymgyrchoedd rhagweithiol i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth y mae ganddynt hawl iddo.
Ym mis Hydref 2019, gweithiodd y comisiynydd pobl hŷn yn agos gyda Trafnidiaeth Cymru i gynnwys taflen wybodaeth am gredyd pensiwn gyda phob gohebiaeth adnewyddu pasys bws consesiynol a gâi eu hanfon at bawb yng Nghymru dros 60 oed. Yn dilyn yr ymgyrch honno, roedd nifer yr hawlwyr newydd 26 y cant yn uwch na'r cyfartaledd fesul chwarter dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Byddwn yn croesawu ymestyn ymgyrch fel hon, er enghraifft drwy hysbysebu ar fagiau fferyllol, a allai gynyddu ymwybyddiaeth o'r cymorth y mae gan bobl yng Nghymru hawl iddo.
Yn San Steffan y mae llawer o'r pwerau sy'n effeithio ar gostau byw, ac mae angen i Lywodraeth y DU weithredu yn awr i osgoi cynnydd trychinebus ym mhrisiau ynni, ond mae'n bwysig cofio'r gwahaniaeth y mae ein Llywodraeth yng Nghymru yn ei wneud ac y gall ei wneud i aelwydydd ledled Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Lywydd, a gaf fi ymddiheuro am fod fy nghi yn chwyrnu ac yn griddfan yn y cefndir?