Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 19 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r Aelod. Mae'n peintio darlun llwm iawn ac yn sôn am y tenancy hardship fund. Onid un ffordd arall o sôn am y cost-of-living crisis ydy cyfeirio ato fo yr un fath ag unearned income boon, oherwydd bod rhentwyr preifat yn fwy tebygol o wario dros draean o'u hincwm ar rhentu, felly? Ydych chi felly'n Aelod sy'n cytuno efo fi bod angen gweld y Llywodraeth yn ymyrryd yn y farchnad dai a sicrhau rhent fforddiadwy i bobl ar lawr gwlad?