Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 25 Ionawr 2022.
Prif Weinidog, rwy'n croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru o goeden am ddim i bob aelwyd. Mae etholwyr wedi gofyn i mi holi a fydd yn bosibl i aelwydydd ymuno â'i gilydd a phlannu eu coed mewn mannau cymunedol, i greu coedwigoedd bach ac, mewn rhai achosion, i helpu i amsugno dŵr wyneb mewn ardaloedd cymunedol a allai, o bosibl, arwain at lifogydd i gartrefi fel arall.