Llygredd yn Afon Tawe

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 25 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:15, 25 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae gan Dŵr Cymru raglen o weithredu a buddsoddi i fynd i'r afael â llygredd o'i waith trin ar Afon Tawe. Ymdrinnir â mathau eraill o lygredd, gan gynnwys amaethyddiaeth a llygredd o fwyngloddiau metel segur, drwy Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n rhaid i bob corff perthnasol wneud ei gyfraniad at fynd i'r afael â llygredd afonydd er mwyn i'r ymdrechion hynny lwyddo.