Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 25 Ionawr 2022.
Llywydd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau, yn egnïol, i ddadlau'r achos dros ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus annibynnol a ariennir yn gyhoeddus. Gyda memorandwm cyd-ddealltwriaeth teiran a lofnodwyd yn ddiweddar yn weithredol rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a'r BBC, rydym ni'n disgwyl cymryd rhan lawn mewn trafodaethau ar siarter y BBC.