Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 25 Ionawr 2022.
Rydyn ni'n sôn am y manteision amgylcheddol, y manteision economaidd o ddatblygu polisïau caffael cadarn i Gymru, ac mi wnaeth y pandemig roi rheswm arall eglur iawn inni dros y budd o gael cadwyni cyflenwi cynhenid cryf, ac mi oedd cwmni Brodwaith yn fy etholaeth i yn un o'r cwmnïau hynny wnaeth arallgyfeirio, os liciwch chi, er mwyn gallu darparu offer PPE i’r gwasanaeth iechyd, ac mi oedd cwmni Elite yng Nglynebwy hefyd, wrth gwrs, yn gwmni arall wnaeth gamu i’r adwy er mwyn rhoi i'n gwasanaeth iechyd a gofal ni yr hyn oedd ei angen arnyn nhw. Yn anffodus, ac mae hyn yn rhywbeth dwi wedi’i godi efo'r Gweinidog economi ac efo'r bwrdd iechyd yma yn y gogledd, mae yna arwyddion bod y cytundebau hynny yn mynd i gael eu tynnu oddi ar y cwmnïau Cymreig hynny rŵan bod pethau’n dechrau dod yn ôl i normal. Wel, mae hynny, wrth gwrs, yn golled enfawr i’r cwmnïau hynny, sydd mewn perygl o golli y busnes oherwydd eu bod nhw wedi arallgyfeirio, ond mae hefyd yn golled fawr i'r economi Gymreig ac i'r gwasanaeth iechyd. A gaf i sicrwydd y bydd y Gweinidog cyllid yn edrych ar ambell i enghraifft fel hyn o arfer da o gyfnod y pandemig a sicrhau nad ydyn nhw ddim yn cael eu colli o ran y cytundebau penodol yma i'r cwmnïau Cymreig yma, ond hefyd o ran yr egwyddor o beth oedd yn trio cael ei gyflawni drwy symud at roi cytundebau fel hyn i gwmnïau Cymreig, a'r budd, fel dwi'n dweud, yn dod yn amlwg ar sawl lefel?