4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Cyllid Hosbisau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 25 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:40, 25 Ionawr 2022

Cafodd yr adolygiad ei arwain gan dîm o Gydweithrediad Iechyd GIG Cymru. Roedd y gwaith yn cynnwys dadansoddi templedi gwybodaeth a gyflwynwyd gan hosbisau a chynnal cyfweliadau. Cafodd cyfarfodydd rheolaidd eu cynnal gyda Hospice UK a'r holl hosbisau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am hynt y gwaith. Yn ogystal â hyn, ystyriwyd hefyd i ba raddau mae cyllid statudol yn cyfrannu at wasanaethau'r sector gwirfoddol yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Cefais yr adolygiad terfynol ym mis Tachwedd 2021. Roedd yr adolygiad yn argymell cyllido hosbisau plant drwy gyfrannu 21 y cant o gostau gofal cytunedig yr holl hosbisau plant. Roedd hefyd yn argymell cynyddu'r cyllid ar gyfer hosbisau oedolion er mwyn adlewyrchu effaith dybiedig chwyddiant ar y dull gwreiddiol o gyfrifo'r cyllid. Byddai hyn yn cynnwys costau gwelyau a gwasanaethau cymunedol, a chyllido effaith ariannol y broses o ddarparu gwelyau ychwanegol a gyflwynwyd ers 2010-11. Dwi'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adolygiad, ac y bydd yn darparu £2.2 miliwn yn ychwanegol ar gyfer hosbisau Cymru yn rheolaidd o 2022-23 ymlaen. Bydd £888,000 o'r cyllid hwn yn mynd i ddwy hosbis plant, Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith.

Bydd cam 2, sef yr adolygiad ehangach o'r holl gyllid statudol a chyllid y sector gwirfoddol ar gyfer gofal diwedd oes, yn ystyried yr holl sbectrwm gofal. Bydd yn gwneud hynny gan ddefnyddio modelau gofal wedi eu cytuno'n lleol, dilyn egwyddorion gofal iechyd yn seiliedig ar werth, a chael ei arwain gan y nodau yn y cynllun 'Cymru Iachach'. Bydd y cam hwn yn cael ei oruchwylio gan fwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes, sydd i'w sefydlu'n fuan, fel sydd wedi ei nodi yn y fframwaith clinigol cenedlaethol. Bydd y bwrdd yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng y modelau darparu hosbisau a ddaeth yn amlwg yng ngham 1 yr adolygiad, a'r berthynas rhwng byrddau iechyd a hosbisau. 

I grynhoi, mae'r datganiad llafar hwn heddiw yn rhoi cipolwg ar y cynnydd rhagorol maen nhw wedi ei wneud wrth adolygu'r cyllid ar gyfer hosbisau gwirfoddol hyd yma. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn golygu cynnydd sylweddol yn y dyraniadau cyllid craidd ar gyfer hosbisau ledled Cymru, ac yn cynnig lefel o sicrwydd ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Ond, er bod y camau cadarnhaol hyn yn galonogol, mae'n amlwg bod her fawr o hyd o flaen yr holl wasanaethau gofal diwedd oes. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn dal yn benderfynol o gryfhau ei ffocws ar ofal diwedd oes. Byddwn yn parhau i weithio yn agos gyda bwrdd y rhaglen genedlaethol i annog gweithredu ar draws y Llywodraeth a gyda rhanddeiliaid i wella'r gwasanaethau gofal diwedd oes i bawb. Diolch yn fawr.