Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 25 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Y peth cyntaf dwi am ei wneud ydy talu teyrnged a dweud 'diolch' i'r sector hosbisau yng Nghymru; diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth cwbl, cwbl hanfodol. Mae unrhyw un sydd wedi cael y fraint o ymweld â hosbis neu brofi gwasanaeth hosbis yn y cartref yn gwybod am y gofal diflino. Dwi wedi gweithio efo'r sector y gorau y gallaf i fel Aelod Ynys Môn, fel llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal ac fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar hosbisau i drio dwyn pwysau am setliad ariannol fyddai yn rhoi y math o sicrwydd maen nhw yn ei haeddu. Dwi'n falch ein bod ni wedi cael y cyhoeddiad yma heddiw. Mi holais i'r Gweinidog am hyn yn y pwyllgor iechyd yr wythnos cyn ddiwethaf. Mi addawyd datganiad buan, felly dwi'n falch ei bod hi wedi cadw at ei gair. Ac mae o'n gam, heb os, i'r cyfeiriad cywir, ond mae yna dipyn o ffordd i fynd eto.
Y cyd-destun ariannol, fel dywedodd y Gweinidog, ydy bod yna ddim cynnydd wedi bod yn y cyllid creiddiol, mewn difrif, ers degawd erbyn hyn. Rŵan, dwi'n gweld hyn fel cywiriad, os liciwch hi. Dwi'n cydnabod yr hyn a glywon ni gan y Gweinidog—bod yna gymal arall i ddod i'r adolygiad yma gan y Llywodraeth. Ond i roi syniad o ystyr y ffigurau rydyn ni wedi'u clywed gan y Gweinidog heddiw, mae £2.2 miliwn o ychwanegol yn mynd i'r sector cyfan yng Nghymru yn flynyddol; mae'n costio rhyw £5 miliwn y flwyddyn i redeg hosbis Dewi Sant yn unig, efo llai na 10 y cant ohono fo'n dod gan y Llywodraeth neu'r bwrdd iechyd. Cyn y cyhoeddiad yma, 10 y cant o gyllid hosbisau plant Cymru oedd yn dod o'r pwrs cyhoeddus. Mi fydd yna rŵan, os dwi wedi deall yn iawn o'r datganiad, yr un lefel â Lloegr, sef 21 y cant, ond cofiwch fod Gogledd Iwerddon yn talu 25 y cant a'r Alban yn talu hanner y costau. Felly, ydy, mae'r arian ychwanegol i'w groesawu, ond dwi yn edrych ymlaen at weld datganiad pellach.
Mae hi'n afresymol, dwi'n meddwl, inni barhau i ddisgwyl y lefel o ofal a'r lefel o wasanaeth rydyn ni wedi arfer â fo ac sydd mor bwysig i deuluoedd ar draws Cymru heb ein bod ni'n barod i wneud cyfraniad teg tuag at hwnnw. Ac mi hoffwn i ofyn i'r Gweinidog am sicrwydd y bydd cymal 2 o'r adolygiad yn edrych ar y posibilrwydd o gynyddu'r cyllid craidd hwnnw i'r sector gwirfoddol ymhellach. Ac un cwestiwn ychwanegol, hefyd. Mae yna fwy na dim ond symiau o arian sydd angen edrych arnyn nhw; mae eisiau sicrhau hefyd bod mynediad at wasanaeth hosbisau yn gyfartal i bawb, pwy bynnag ydyn nhw, lle bynnag maen nhw yng Nghymru. Mae yna anghydraddoldebau mawr ar hyn o bryd. Ydy hyn hefyd yn rhywbeth mae'r Gweinidog yn mynd i edrych arno fo er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y gwasanaeth rhagorol hwn wirioneddol yn wasanaeth rhagorol y mae pawb yn gallu cael mynediad ato fo?