Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 25 Ionawr 2022.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad y prynhawn yma. Gadewch imi ddechrau drwy ddweud ei bod hi ddim yn unig yn ddiwrnod gwych i'r Urdd ar gyfer dathlu ei chanmlwyddiant heddiw, a hefyd y ffaith ein bod ni'n dathlu Diwrnod Santes Dwynwen hefyd, ond yn berthnasol i'r datganiad yma, dwi hefyd yn dymuno pen-blwydd hapus i Tŷ Hafan, sydd heddiw'n dathlu pen-blwydd yn 23 mlwydd oed. Ac mae'r datganiad yma yn ffordd wych o ddathlu'r ddwy hosbis plant yng Nghymru.