Part of QNR – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2022.
Mae absenoldeb staff, ar ben pwysau'r gaeaf, wedi achosi heriau sylweddol i'n staff ymroddedig yn y gwasanaeth iechyd. Mae cefnogi'r gweithlu yn rhan ganolog o'n cynllun adfer ar ôl COVID a'n cynllun diogelu ar gyfer y gaeaf. Mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â sefydliadau'r gwasanaeth iechyd er mwyn deall y cymhlethdodau rhanbarthol yn llawn a sicrhau bod eu staff yn cael eu cefnogi.