Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 26 Ionawr 2022.
Weithiau, gall manteision adfer y gamlas fod yn anodd eu gwerthfawrogi, oherwydd caiff effeithiau ariannol a llesiant eu lledaenu ar draws unigolion a busnesau lleol amrywiol. Mae llawer o fanteision eisoes, wrth gwrs, i'r darn lle'r adferwyd y gamlas eisoes o amgylch y Trallwng. Mae Ymddiriedolaeth Heulwen yn gwneud gwaith anhygoel sy'n cynnig teithiau camlas i rai na fyddent yn gallu eu defnyddio fel arall o bosibl, ar gwch cyntaf y DU a addaswyd ar gyfer pobl sy'n agored i niwed. Cynigir y teithiau hyn yn rhad ac am ddim diolch i ymdrechon codi arian lleol ac maent yn helpu pobl mewn amgylchiadau anodd i ddathlu pen blwyddi a mwynhau amser gydag anwyliaid, ac wrth gwrs gallant ddefnyddio a mwynhau'r manteision y mae llawer ohonom yn eu mwynhau ar y dyfrffyrdd. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â hwy fy hun ar gyfer taith ar gwch Heulwen II—unwaith eto, efallai y gallwch weld llun y tu ôl i mi ar fy wal.
Bydd pobl leol yn elwa mewn nifer o ffyrdd o adfer y gamlas. Bydd mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn deillio o fusnesau newydd ac ehangu busnesau yn yr ardal, ac rwy'n hyderus y bydd llawer o gyfleoedd menter a buddsoddi preifat yn codi o'r gwaith adfer. Mae'r gwaith adfer yn gyfle adfywio enfawr ac rwy'n awyddus iawn i Gyngor Sir Powys gyflwyno prif gynllun yn sgil buddsoddiad y sector cyhoeddus.
O ganlyniad i'r pandemig, wrth gwrs, mae ymarfer corff, fel y gwyddom, hyd yn oed yn bwysicach i ni nag erioed o'r blaen. Bydd y rhai sydd â chamlesi mewn etholaethau eraill yn gwybod pa mor boblogaidd y gallant fod ymhlith pobl leol sy'n cerdded a mynd â chŵn allan neu wneud ymarfer corff arall. Roeddwn yn falch iawn rai blynyddoedd yn ôl o ymweld â'r camlesi yn yr Alban, gyda nifer o Aelodau eraill y Senedd, i ddeall y manteision yno, ac fe'm perswadiwyd yn gyflym, fel yr holl Aelodau ar y daith honno, fod dyfrffyrdd yn annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff a gwella lles, fel y dengys nifer o adroddiadau. Mae'r gamlas yn lleol eisoes yn cynnal triathlon camlas Trefaldwyn, sy'n dod â 200 o gystadleuwyr o bob rhan o'r DU a 90 o wirfoddolwyr at ei gilydd. Mae'r gamlas hefyd, wrth gwrs, yn rhan o'n hanes a'n diwylliant lleol. Bydd ei gwarchod, gyda'i hystod wych o adeileddau rhestredig, yn gwasanaethu ac yn achub rhan bwysig o'n gorffennol cyffredin i genedlaethau'r dyfodol.
Felly, beth fydd y dyfodol yn ei gynnig? Dros 10 mlynedd ar ôl ei hadfer, amcangyfrifir y bydd yr incwm ychwanegol gan ymwelwyr a gynhyrchir gan y gamlas dros £23 miliwn, yn ôl yr astudiaethau dichonoldeb gan bartneriaeth camlas Trefaldwyn. Wrth gwrs, bydd hyn o fudd i siopau, caffis ac atyniadau, a thrwy adfer y gamlas a rhoi hwb i'r busnesau hynny, gellir cadw mwy o gyfleusterau i bobl leol a thwristiaid yn ein trefi a'n pentrefi. Bydd y gamlas hefyd yn rhoi brand i ganolbarth Cymru allu hyrwyddo ei hun i ddarpar ymwelwyr. Wrth gwrs, mae gan Sir Drefaldwyn atyniadau gwych i ymwelwyr, fel castell Powis a Rheilffordd Fach y Trallwng a Llanfair, a bydd y gamlas yn ychwanegu at y rheini.
Mae cadwraeth ac ailagor y gamlas yn gynaliadwy ac yn sensitif yn ganolog i ethos pawb sy'n ymwneud â chyflawni'r prosiect cyffrous hwn, ac rwy'n falch iawn fod Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, rwyf yn aelod ohoni hefyd, wedi cyfrannu'n weithredol at y prosiect hwn, a bydd yn parhau i wneud hynny.
Ceir uchelgais mawr iawn yn yr ardal i ddatblygu'r prosiect o adfer y gamlas yn llwyr. Bydd y momentwm a welwn yn awr yn sicrhau bod rhan sylweddol o'r gamlas wedi'i chwblhau. Dylem fod yn edrych wedyn, wrth gwrs, ar fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer rhan y Drenewydd, fel y bydd egni, ymdrech a chyllid yn parhau gyda'r gwaith adfer pan fydd y gwaith adeiladu wedi gorffen ar y camau presennol. Mae Cyngor Tref y Drenewydd wedi bod yn gefnogwyr brwd i'r prosiect a gwn eu bod yn awyddus iawn i gefnogi peth o'r gwaith sydd ei angen ar gyfer y cam hwn.
Hefyd, rwy'n arbennig o falch o weld bod adfer y gamlas wedi ennyn cefnogaeth mor eang o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol. Gwn y bydd Jane Dodds a fy nghyd-Aelod, James Evans, yn siarad i gefnogi'r gwaith o adfer y gamlas heddiw hefyd. Ond o fy mhlaid fy hun, mae fy AS fy hun, Craig Williams, wedi bod wrthi'n ymgyrchu dros y gamlas ac wedi ei gwneud yn un o'i flaenoriaethau ers cael ei ailethol. Yn ôl yn 2020, siaradodd y Prif Weinidog yn ffafriol iawn am y prosiect pan ofynnais iddo ynglŷn â'r ymdrechion i hyrwyddo treftadaeth wych canolbarth Cymru, a gwn fod cyn Weinidog yr economi, Ken Skates, yn gadarnhaol ac yn gefnogol iawn i'r cynllun, ac mae'n sicr wedi mynegi ei farn ehangach fod y camlesi'n hanfodol i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Rwy'n cytuno'n llwyr wrth gwrs, ac rwy'n gobeithio y bydd parhad y prosiect hwn yn gweld canolbarth Cymru yn mwynhau'r un manteision ag ardaloedd eraill yng Nghymru sydd â chamlesi gweithredol, cydgysylltiedig. Roeddwn yn falch iawn hefyd pan ymunodd yr Arglwydd Elis-Thomas â mi ar daith ar ran y Trallwng o'r gamlas, yn ôl ym mis Hydref 2018. Bydd yn rhaid bod gennych olwg da iawn i weld y llun bach y tu ôl i mi ohonof fi a Dafydd ar y gamlas yn ôl yn 2018. Ac roedd Dafydd, fel y Gweinidog twristiaeth ar y pryd, yn arbennig o awyddus i weld y gamlas wedi ei hadfer.
Felly, mae llawer eisoes wedi'i gyflawni yn y gwaith o adfer y gamlas, ac mae nifer o gyhoeddiadau arwyddocaol ynghylch cyllid wedi rhoi hwb sylweddol i hyn yn ddiweddar. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog am annog pob adran ar draws Llywodraeth Cymru i gefnogi'r sefydliadau sy'n adfer y gamlas wrth iddynt edrych am ragor o gyfleoedd ariannu ar gyfer y prosiect hwn, sy'n cysylltu ein cymunedau â'i gilydd. A dylem ddathlu potensial pellach y gamlas i roi hwb i'n lles, ein heconomi a'n treftadaeth yn lleol, a diolch i'r gwirfoddolwyr niferus hynny sydd, dros ddegawdau lawer, wedi gwneud cymaint eisoes ar ran ein cymuned. Diolch yn fawr.