Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch, Paul. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi codi ymwybyddiaeth fel rhan o’n digwyddiadau COP Cymru ac Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddiweddar, ac rydym yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo cymunedau i ddeall a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.