Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch, Weinidog. Rwyf am ofyn cwestiwn yn sgil fy nghwestiwn i’r Gweinidog materion gwledig cyn y Nadolig, ac yn benodol, ei hateb y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi ystyried gwaharddiad parhaol ar hela trywydd gan y rhai sy’n gyfrifol am dir cyhoeddus yng Nghymru. Gwyddom fod hela trywydd yn cael ei ddefnyddio fel ffug-esgus dros hela anifeiliaid byw. O ystyried bod CNC a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gwahardd hela trywydd, a wnewch chi geisio cyflwyno gwaharddiad cyffelyb fel mater o frys i sicrhau na chaiff ein tir cyhoeddus ei ddefnyddio ar gyfer yr arfer creulon, anghyfreithlon a hynaflyd hwn?