Ffyrdd sy’n Llifogi’n Gyson

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:04, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Nodaf na ddymunwyd yn dda i mi wrth i mi wella o fy annwyd i, ond fe anwybyddaf hynny.

Mae gan Lywodraeth Cymru fesurau ar waith i reoli cefnffyrdd yr effeithir arnynt gan ddigwyddiadau tywydd, gan gynnwys llifogydd. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw'r rhwydwaith ffyrdd lleol wrth gwrs, a chânt arian grant gan Lywodraeth Cymru i gynnal a sicrhau cydnerthedd eu ffyrdd.