Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 26 Ionawr 2022.
Mae sir Benfro, fel pob awdurdod lleol, wedi bod yn brysur yn paratoi'r cynllun strategol Cymraeg mewn addysg newydd. Mae'r cynllun yn nodi sut y maen nhw'n bwriadu cynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg 10 i 14 y cant dros y 10 mlynedd nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at gael eu cynllun drafft ddiwedd y mis hwn.