Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch i'r Aelod am y cyfle i ategu ei longyfarchiadau e i'r Urdd am eu gwaith aruthrol nhw dros ganrif i ddarparu gwasanaethau ieuenctid i'n pobl ni yma yng Nghymru. Byddaf, rwy'n siŵr, yn rhannu gyda fe atgofion melys iawn o ba mor bwysig oedd yr Urdd i fi fel crwtyn yn tyfu i fyny. Felly, rwy'n hapus iawn i ategu llongyfarchiadau'r Aelod.
Mae'r awdurdod lleol yn sir Benfro yn rhannu ein barn ni fel Llywodraeth bod y ffaith nad oes digon o lefydd ar gael yn un o bwys, ac maen nhw wedi bod yn gweithio ar eu cynllun strategol gyda hynny mewn golwg. Rwy'n gwybod hefyd bod y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi bod yn gweithio gydag amryw o deuluoedd yn sir Benfro i'w cefnogi nhw mewn apeliadau ynglŷn â phenderfyniadau o ran mynediad at ysgolion penodol. Mae'r ystod y mae'r cyngor yn ei ddatgan yn y cynllun drafft yn un sydd yn golygu y bydd cynnydd o hyd at 14 y cant, fel y gwnes i ddweud. Mae hefyd cynlluniau gan yr awdurdod i sefydlu ysgol newydd ac i edrych ar gategoreiddio ysgolion a symud categoreiddio ysgolion i sicrhau mwy o ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â'r angen i fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar. Felly, mae elfen o uchelgais yng nghynlluniau'r cyngor er mwyn darparu darpariaeth ehangach.
Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod bod cynllun cyfalaf wedi'i ddatgan y llynedd o ryw £30 miliwn ar gyfer darparu buddsoddiadau yn seilwaith addysg Gymraeg yma yng Nghymru, ac mae llawer iawn o'n hawdurdodau lleol ni wedi datgan diddordeb yn hwnnw. Mae'r broses yn digwydd ar hyn o bryd o edrych ar y cynigion hynny a'u cymharu nhw gyda'r lefel o uchelgais sydd yn y cynlluniau strategol, a byddaf i'n gallu dweud mwy am hynny ym mis Chwefror.