Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:36, 26 Ionawr 2022

Diolch, Llywydd. Weinidog, ddoe fe wnaethoch yn glir mai'r bwriad yw i arholiadau fynd rhagddynt eleni, ac roeddwn yn falch o'ch gweld yn cydnabod yr aflonyddwch y mae dysgwyr a staff wedi ei wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ein hysgolion a'n colegau. Fe wnaethoch annog pob dysgwr ym mlynyddoedd arholiadau i siarad â'u hysgolion a'u colegau am ba gymorth a hyblygrwydd ychwanegol a allai fod ar gael eleni. Ond mae hyn dal yn amwys iawn, ac yn rhoi'r baich yn ôl ar y dysgwyr i geisio cael cefnogaeth, yn hytrach na bod y cymorth yn cael ei gynnig iddynt. Yn amlwg, dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd am ddigwydd o ran coronafeirws, er bod yr arwyddion yn galonogol. Os bydd amharu pellach ar addysg, gan gynnwys absenoldebau uchel o ran staff a dysgwyr, pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith rhag ofn na ellir bwrw ymlaen â'r arholiadau?