Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 26 Ionawr 2022.
Nac ydw. Roedd yr Aelod yn y pwyllgor i glywed y drafodaeth ac fe wnaeth e glywed fy ateb i i'r pwynt a godwyd hefyd—rwy'n sicr o hynny.
Mae'r cwestiwn yma o ran hyrwyddo yn un diddorol rwy'n credu. Rwy'n credu ei fod e'n—. Mae'r gair 'hyrwyddo' yn gallu golygu lot fawr o bethau. Mae polisi iaith yn datblygu dros amser ac rŷn ni'n dysgu i wneud pethau'n wahanol ac yn well. A'r hyn sydd gyda ni nawr yw ystod o bolisïau mewn meysydd y byddem ni wedi galw, yn gyffredinol, yn 'hyrwyddo' yn y gorffennol.
Felly, un o'r pethau rŷn ni'n gwneud yw edrych ar y cynllun grantiau hyrwyddo i weld yn union beth maen nhw'n ei wneud—dŷn nhw ddim wedi cael eu cloriannu a'u hasesu ers inni gymryd cyfrifoldeb dros y cynllun grantiau. Felly, rŷn ni'n edrych eto ar bob un o'r ymyraethau yna rŷn ni'n eu gwneud i weld a ydyn nhw'n gwneud y gorau y gallan nhw er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg. Buaswn i'n annog Aelodau i feddwl amdano fe fel cyfle pellach i graffu ar waith y Llywodraeth, yn hytrach na fy mod i'n gallu esbonio ar lefel gyffredinol y gwaith hyrwyddo rŷn ni'n ei wneud. Mae camau penodol ar waith a gallwch chi edrych ar y rheini a'u hasesu nhw'n benodol. Mae hynny, rwy'n credu, yn ffordd fwy ymarferol o wneud cynnydd ym maes y Gymraeg yn gyffredinol.
O ran sylwadau'r comisiynydd, ac unrhyw un arall sydd yn annog y Llywodraeth i wneud cymaint ag y gallwn ni o ran darpariaeth addysg Gymraeg, gewch chi ddim rhywun sydd yn fwy o eiriolwr dros hynny na minnau. Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni wneud cymaint ag y gallwn ni mor gyflym ag y gallwn ni o ran darpariaeth addysg Gymraeg. Rwy eisiau gweld ein bod ni'n sicrhau bod mynediad hafal ymhob rhan o Gymru i unrhyw un sydd yn moyn addysg Gymraeg. Yn ffodus, mae gyda ni ymrwymiad eisoes i ddarparu deddfwriaeth yn hyn o beth, fel ein bod ni'n gallu, yn ystod y Senedd hon, sicrhau bod sail statudol gryfach gyda ni er mwyn darparu addysg Gymraeg. Ond fel clywsoch chi eisoes, mae'r cynlluniau strategol y mae ein hawdurdodau lleol ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw yn rhai rwy'n disgwyl iddynt fod yn uchelgeisiol. Dwi ddim wedi eu gweld nhw ond mewn drafft ar hyn o bryd, ac rwy'n credu eu bod nhw'n darparu cyfle i ni fynd ymhellach dros y ddegawd nesaf.