Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 26 Ionawr 2022.
Weinidog, cyfarfûm yn ddiweddar ag aelodau o Undeb Amaethwyr Cymru ym marchnad da byw Mynwy. Yn ystod y cyfarfod, mynegwyd pryderon ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng ngoleuni datganiad y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y dylem fwyta llai o gig. Dywedodd llywydd NFU Cymru, John Davies, fod gwerthoedd cynaliadwyedd uchel cig coch a llaeth Cymru yn golygu y gall defnyddwyr barhau i fwynhau'r cynhyrchion hyn gan wybod nad ydynt yn effeithio ar yr amgylchedd. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda chyd-Weinidogion i sicrhau bod gwerth maeth uchel i brydau ysgol, gyda'r flaenoriaeth i gynnyrch lleol o ansawdd da o ffermydd Cymru? Diolch.