Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 26 Ionawr 2022.
Rydym eisiau sicrhau bod y gweithlu'n gallu diwallu anghenion ein dysgwyr, fel y mae ein holl golegau. Mae'r cyllid—[Anghlywadwy.]—eleni, fel y dywedais, wedi ein galluogi i adfer, efallai, rhai o'r cyllidebau mwy heriol rydym wedi'u gweld yn y gorffennol. Mae'n adlewyrchu'r galw cynyddol am addysg bellach, y byddwn i gyd yn ei groesawu, ac wrth gwrs yn ei gwneud hi'n bosibl gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r gweithlu fel bod y gofynion hynny'n cael eu bodloni. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gallu diwallu anghenion ein dysgwyr yn y dirwedd ôl-16 mewn amrywiaeth o ffyrdd, a gobeithio y bydd setliad y gyllideb yn cynorthwyo colegau addysg bellach i wneud hynny.