Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 26 Ionawr 2022.
Mae'r Ddeddf yn sicrhau bod pedwar diben y cwricwlwm newydd yn datblygu i fod yn weledigaeth a dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Wrth gyflawni'r dibenion hyn, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cael addysg eang a chytbwys ni waeth pa rwystrau i ddysgu y maent yn eu hwynebu.